British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 24 Mawrth 2011, 08:36 GMT
'Adnodd cyhoeddus anarferol'

perllan
Credir mai dyma'r berllan gyhoeddus gyntaf i gael ei chreu gan awdurdod lleol yng Nghymru.

Mae Cyngor Sir yn cynnig adnodd newydd ac anarferol i'w drigolion a fydd y cyntaf o'i fath yng Nghymru.

Mae Cyngor Conwy wedi agor perllan gyhoeddus ar dir gwyrdd ger Rhos Fynach, Llandrillo-yn-Rhos.

Bydd yn defnyddio arian ddaeth i law'r awdurdod gan ddatblygwyr i gronfa sy'n cael ei chlustnodi ar gyfer prosiectau cymunedol.

Mae adran parciau Cyngor Conwy wedi plannu tua 50 o goed afalau, gellyg ac eirin - fydd y coed ddim yn tyfu'n uwch na rhyw 10 troedfedd, ac maen nhw tua 4 metr oddi wrth ei gilydd.

Gwreiddiol

Dywedodd y cynghorydd lleol, y Cynghorydd Phil Edwards: "Mae plannu coed ffrwythau yn beth eitha' anarferol y dyddiau hyn, ac yn fwy felly gan mai'r Awdurdod Lleol sy'n gyfrifol.

"Mae'r arian sy'n dod i law'r cyngor gan ddatblygwyr ar gyfer ei ddefnyddio yn y gymuned wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer caeau chwarae ac ati, ond mae'r syniad yma'n un gwbl wreiddiol yn fy meddwl i."

Bu plant o ysgolion lleol yn cynorthwyo i blannu'r berllan, ac fe fydd y cyfan at ddefnydd y cyhoedd yn yr ardal.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific