Staff "wedi cael digon o glywed fod yn rhaid torri eu cyflogau a'u pensiynau"
|
Bydd darlithwyr o brifysgolion Cymru ymhlith y rhai o 500 o brifysgolion Prydain a fydd yn streicio ddydd Iau mewn anghydfod am gyflog a phensiynau. Dyma'r tro cyntaf ers pum mlynedd i ddarlithwyr drwy'r DU streicio, ac mae disgwyl i ddegau o filoedd o aelodau Undeb y Colegau a Phrifysgolion (UCU) wrthod gweithio. Yn ogystal â llinellau piced ymhob coleg a phrifysgol yng Nghymru, bydd sawl rali yn cael eu cynnal yn y dinasoedd. 'Dicter go iawn' Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol UCU, Sally Hunt:
 |
Bydd llinellau piced yn y sefydliadau canlynol :-
Prifysgol Bangor
Prifysgol Glyndŵr
Prifysgol Abertawe
Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd
Coleg Llandrillo
Coleg Menai
Coleg Morgannwg
Coleg Meirion Dwyfor
Coleg Iâl
Coleg Glan Hafren
Coleg Gŵyr, Abertawe
Coleg Sir Gâr
|
"Mae staff colegau a phrifysgolion yn rhoi gwerth gwirioneddol ar eu hawliau pensiwn, ac wedi datgan eu barn yn glir am newidiadau i'r hawliau hynny. "Streicio yw'r dewis olaf bob tro, ond mae ymosod ar eu pensiynau wedi creu dicter go iawn ac yn hytrach nag anwybyddu'r broblem rhaid i'n cyflogwyr ateb ein pryderon ar frys. "Mae staff wedi cael digon o glywed fod yn rhaid torri eu cyflogau a'u pensiynau oherwydd argyfwng economaidd a grëwyd gan eraill." 'Drysu' Dywedodd Keith Burnett, cadeirydd Cymdeithas Cyflogwyr y Colegau a Phrifysgolion: "Mae'r cyflogwyr wedi eu siomi'n arw gan benderfyniad UCU i weithredu'n ddiwydiannol fel hyn. "Rydym yn poeni fod UCU yn drysu eu haelodau drwy gyfuno canlyniadau pleidleisiau gwahanol gyda gweithredu fel hyn. "Rydym yn edrych at UCU i weithio gyda sefydliadau addysg uwch yn ystod y cyfnod yma o newid heriol, nid yn eu herbyn. "Mae yna ansicrwydd mawr ym maes addysg uwch ar hyn o bryd, ac fe all gweithredu fel hyn achosi mwy o broblemau i fyfyrwyr a sefydliadau."
|