Mae'r siarter eisiau gweld diwedd ar 'gamdriniaeth a diffyg parch' i bobl oedrannus mewn gofal
|
Mae amryw o grwpiau cymdeithasol ac iechyd yn y gogledd wedi lawnsio siarter ar gyfer rhoi urddas i bobl hŷn sy'n derbyn gofal cymdethasol neu feddygol. Nod y siarter yw rhoi diwedd i oddefgarwch o "gamdriniaeth a diffyg parch" i bobl oedrannus gan staff a gwirfoddolwyr. Cyngor Wrecsam sy'n arwain yr ymgyrch, sydd hefyd yn cynnwys grwpiau proffesiynol ac elusennol. Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi dweud fod "diwylliant o esgeulustod" yn y gofal sy'n cael ei roi i gleifion hŷn a bregus newn ysbytai. Daeth beirniadaeth Peter Tyndall ddiwrnod wedi i Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Ruth Marks, ddweud bod y gofal sydd ar gael i bobl hŷn yn "warthus o annigonol". Mae lawnsio Siarter Urddas mewn Gofal i Bobl Hŷn yn Wrecsam ddydd Mercher yn rhan o ymgyrch genedlaethol i wella answdd gofal a thynnu sylw at brofiadau pobl sy'n defnyddio gwasanaethau. 'Un o bob pedwar' dros 65 Mae'r grwpiau eraill sy'n rhan o'r siarter yn cynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam, Age Concern Gogledd Ddwyrain Cymru a'r Groes Goch Brydeinig Yn y cyfamser mae elusen Age Cymru wedi bod yn cynnal cynhadledd yn Wrecsam ar gyfer mynd i'r afael ag agwedd cymdeithas tuag at oedran a heneiddio. Dywedodd Dr Ceri Cryer o'r elusen: "Mae poblogaeth Cymru yn heneiddio - mae un o bob pedwar o bobl Cymru yn 65 neu'n hŷn, ac mewn 20 mlynedd bydd un o bob tri o oedolion Cymru dros 65 mlwydd oed neu'n hŷn. "Yn amlwg, mae'n rhaid inni addasu i anghenion ein poblogaeth sy'n heneiddio ac mae mynd i'r afael â rhagfarn oed yn rhan bwysig o'r broses hon."
|