British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 23 Mawrth 2011, 12:48 GMT
CaniatŠu mwy o allyriadau

Port Talbot
Mae rhai yn poeni am effaith y gwaith ar iechyd bobl leol

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi caniatáu gollwng mwy o nwyon o safle biomas newydd ym Mhort Talbot.

Yn ôl Prenergy, sy'n gyfrifol am y safle £400 miliwn arfaethedig, mae angen y newidiadau oherwydd y modd mae'r pwerdy wedi ei gynllunio.

Maen nhw'n mynnu fod y pwerdy llosgi coed yn cwrdd â'r safonau amgylcheddol ucha'.

Dywedodd Asiantaeth yr Amgylchedd na fyddai llacio rhywfaint ar y cyfyngiadau ar gyfer allyriadau yn golygu fod safon yr aer yn dirywio.

Y newidiadau penodol yw: cynyddu cyfyngiad gollyngiadau ocsid nitrus (N2O), cynyddu cyfyngiad gollyngiadau sylffwr deuocsid (SO2) a hydrogen, a chaniatáu defnyddio pelenni coed yn ogystal â sglodion coed.

'Ymchwiliad trwyadl'

Yn ôl yr Asiantaeth mae "ymchwiliad trwyadl" wedi ei gynnal i weld a fyddai yna unrhyw risg i'r cyhoedd yn ardal Port Talbot.

Dywedodd llefarydd eu bod wedi ymgynghori gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, adran amgylcheddol cyngor Castell-nedd Port Talbot ac eraill.

Dywedodd Mary Youell o Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru: "Ni fydden ni'n ystyried derbyn y newidiadau hyn pe baen ni'n poeni y byddai'n effeithio ar safon byw'r gymuned o ran safon yr aer."

Yn ôl Prenergy fe fydd y safle yn rhoi gwaith i hyd at 850 o bobl yn y diwydiant adeiladau, a bydd yna 150 o swyddi llawn amser unwaith y bydd y pwerdy yn cynhyrchu ynni.

Yn ôl y cwmni bydd y safle yn cynhyrchu digon o ynni ar gyfer hanner y tai yng Nghymru.

Cyn y penderfyniad terfynol hwn roedd Aelod Cynulliad Aberfan, Brian Gibbons, wedi dweud bod llawer o waith wedi ei wneud yn ddiweddar i wella'r amgylchedd yn lleol, a bod yna wrthwynebiad cryf i'r safle newydd.



HEFYD
Protestwyr yn blocio pwerdy
30 Tach 09 |  Newyddion
Trwydded ar gyfer safle
30 Medi 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific