British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 22 Mawrth 2011, 08:44 GMT
Trenau de Cymru ar stop

Trenau Arriva Cymru

Dywed cwmni Trenau Arriva Cymru fod holl drenau de Cymru ar stop oherwydd diffyg trydan sy'n effeithio ar ardal eang iawn.

Torrwyd y cyflenwad i rannau o Ben-y-bont ar Ogwr, Y Barri, Caerdydd a'r cymoedd hyd at Gaerffili tua 7:30am fore Mawrth.

Mae'r trenau wedi stopio yn yr ardaloedd hynny.

Dywedodd y cwmni fod tua 30 o drenau wedi eu hatal ar y lein, ac maen nhw'n amcangyfrif y byddai cannoedd o deithwyr arnyn nhw.

Dywedodd llefarydd: "Os yw'r cyflenwad yn cael ei dorri, mae'r goleuadau signalau i gyd yn troi'n goch a does dim byd yn symud tan i'r cyflenwad ddod yn ôl.

"Mae hwn yn ddigwyddiad prin iawn, ac mae cwmni Network Rail yn ymchwilio i'r achos."

Dywedodd cwmni Trenau Arriva Cymru eu bod yn ymdrechu i symud trenau i orsafoedd, ond nad oedd trenau yn rhedeg o gwbl rhwng Pen-y-bont a Chasnewydd, gan gynnwys lein Bro Morgannwg.

Bydd unrhyw drenau o Lundain ond yn teithio mor bell â Chasnewydd.

Mae problem hefyd gyda chroesfannau - os oedd y rhwystrau i lawr pan ddiflannodd y trydan, fe fyddan nhw'n aros i lawr.

Credir bod un rhwystr yn Sain Ffagan i lawr, ac mae hynny'n achosi tagfeydd difrifol ar y ffyrdd yn yr ardal.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific