Dywedodd y gweinidog fod y brifysgol yn dal i ddefnyddio trefn ddilysu er bod pryderon amdani
Mae'r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, wedi dweud bod angen i Brifysgol Cymru fynd i'r afael â dilysu canolfannau newydd. Dywedodd fod y brifysgol yn dal i ddefnyddio trefn arbennig er bod pryderon amdani. Mae'r Asiantaeth Sicrwydd Ansawdd, y corff sy'n arolygu safonau addysg uwch, yn ymchwilio i Brifysgol Cymru oherwydd canolfan yn Singapore wedi "nifer o gwynion oddi wrth fyfyrwyr" ym mis Ionawr. Dywedodd yr asiantaeth fod yr ymchwiliad yn ymwneud â safonau academaidd ac ansawdd yn Ysgol Fusnes Turning Point. Yn y cyfamser, mae'r asiantaeth wedi mynnu cynllun gweithredu ac amserlen sy'n dangos pa gamau sy'n cael eu cymryd er mwyn sicrhau bod trefn ddilysu canolfannau'n effeithiol. 'Yn bellgyrhaeddol' Mae'n debyg y bydd y brifysgol yn cael ei beirniadu mewn adolygiad fydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Mawrth. Dywedodd y gweinidog fod Adolygiad McCormick wedi casglu bod rhaid i'r brifysgol "newid yn bellgyrhaeddol os yw'n mynd i gyfrannu at Gymru a'i diwylliant". Fe fydd rhaid iddi, meddai, ystyried o ddifri ei strwythur a'i rôl yn y dyfodol. Ym mis Tachwedd fe ymchwiliodd rhaglen Week In Week Out i ddau goleg tramor oedd yn cynnig cymwysterau Prifysgol Cymru. Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Cymru nad oeddan nhw'n ymwybodol o'r materion cyn hyn ac nad oedd y gweinidog wedi cysylltu â nhw i drafod. Dywedon nhw na fyddan nhw'n gwneud unrhyw sylw nes eu bod wedi ystyried yr adroddiadau perthnasol gan yr Asiantaeth Sicrwydd Ansawdd a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Yn y cyfamser, dywedon nhw fod Prifysgol Cymru yn ceisio cyflawni eu cyfrifoldebau academaidd yn ddiwyd iawn, gan gydweithio gyda phartneriaid i ddarparu sefydliad addysg uwch cyffrous i Gymru a'u bod yn cydweithio gyda sefydliadau dramor i gyflawni eu cenhadaeth fyd-eang, gan gynnwys dod â rhai o academyddion mwya' blaenllaw'r byd i Gymru.
|