British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 21 Mawrth 2011, 16:55 GMT
Pwyllgor o blaid canolfan feicio

Beicio mynydd
Cymeradwyo'r cynlluniau'n 'gam at ddatblygu econom'r ardal'

Mae pwyllgor cynllunio wedi cymeradwyo cais i greu canolfan feicio mynydd ym Mlaenau Ffestiniog.

Eisoes mae Cyngor Gwynedd wedi cymeradwyo llwybrau beicio mynydd ger y dre.

Mae Antur Stiniog am agor canolfan ar dir chwarel y Llechwedd yn y gobaith o ddenu, medden nhw, fwy na 10,000 i'r ardal bob blwyddyn.

Fe fydd y ganolfan yn cynnwys caffi, cyfleusterau cynadledda, gweithdy a chawodydd.

Cyn y cyfarfod yn Nolgellau ddydd Llun dywedodd y trefnwyr y gallai'r ganolfan fod yn "rhan allweddol o rwydwaith llwybrau beicio mynydd".

Fe fydd y dechnoleg ddiweddara'n cael ei defnyddio, gan gynnwys paneli haul.

Dywedodd y cyngor fod gwario £4m yn cynnwys gwella cyfleusterau ym Mlaenau Ffestiniog, Coed y Brenin, Canolfan Campau Dŵr Glanllyn a physgota yn Llyn Trawsfynydd.

Yn ôl Ceri Cunnington, Isgadeirydd Antur Stiniog, fe fyddai cymeradwyo'r cynlluniau'n "gam at ddatblygu econom'r ardal".

'Tair blynedd'

"Mae criw ymroddedig wedi bod yn paratoi'r cynlluniau am dair blynedd ...

"Y nod yw cyflogi tua saith o bobl yn y ganolfan ac os yw beicwyr am aros yn yr ardal, mi fyddwn ni'n cydweithio â gwestai lleol."

Fe allai'r ganolfan a'r llwybrau agor erbyn diwedd y flwyddyn.

Roedd swyddogion cynllunio wedi argymell y dylid cymeradwyo'r cynlluniau os oedd cytundeb o ran tirlunio a'r defnydd o ddeunyddau adeiladu.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific