British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 21 Mawrth 2011, 07:25 GMT
Label yn 'sarhau'r iaith'

Llefrith mewn oergell
Dywed Hufenfa De Arfon bod mwy a mwy o'u llefrith yn mynd i gartrefi yn Lloegr

Mae penderfyniad un o gyflogwyr mwyaf Llŷn ac Eifionydd i newid labeli ar eu cynnyrch llaeth wedi cythruddo pobl leol sy'n honni fod y Gymraeg yn cael lle eilradd.

Ddechrau mis Mawrth penderfynodd Hufenfa De Arfon ail frandio eu cynnyrch dan y label Dragon.

Yn ôl rhai, mae penderfyniad y cwmni, sy'n cyflogi 150 o weithwyr, yn dangos amharch at yr iaith a oedd yn amlwg iawn ar yr hen labeli.

Ond dywedodd y cwmni eu bod wedi newid y label er mwyn apelio at eu marchnad gynyddol yn Lloegr.

Yng Nghymru

Trueni bod cwmni mor Gymraeg wedi derbyn y gair yna i werthu eu cynnyrch
Elfed Gruffydd, Cyfeillion Llŷn

Yr hufenfa yn Rhydygwystl, Chwilog, ydi'r unig gwmni sy'n casglu llefrith, ei brosesu a'i bacio yng Nghymru.

Maen nhw'n cynhyrchu wyth tunnell o gaws a thair miliwn litr o laeth yfed bob blwyddyn ond mae mwy a mwy o'u cynnyrch yn cael ei werthu dros y ffin.

Dywedodd Cadeirydd Cyfeillion Llŷn, Elfed Gruffydd, ei fod yn siomedig ar ôl sylwi fod y gair Dragon wedi ymddangos ar y labeli.

"Rydyn ni'n derbyn fod Rhydygwystl a Hufenfa De Arfon yn cyfrannu'n eithriadol i economi'r ardal ac yn asgwrn cefn yn Llŷn ac roedd yn drueni fod cwmni mor Gymraeg wedi derbyn y gair yna i werthu eu cynnyrch," meddai

"Ar eu label mae'r Saesneg yn fawr a Hufenfa De Arfon yn fychan iawn, iawn," meddai.

Dywedodd y Cynghorydd Victor Jones o Gyngor Cymuned Llanbedrog ei fod yn gwrthwynebu'r newid: "Ar yr un newydd mae'r gair mawr Dragon a'r ddraig i'w gweld yn aur a dim ond 'llefrith' yn fach.

Rŵan rydyn ni'n gwerthu tri chwarter ein cynnyrch y tu allan i'r ardal a'i hanner yn mynd i Loegr
Rhisiart Lewis, Cyfarwyddwr Hufenfa De Arfon

"Dim gair arall o Gymraeg a South Caernarfon Creameries yn fawr ar y talcen a'r Gymraeg yn fach fach."

Gwerthu dros y ffin

Yn ôl Rhisiart Lewis, un o gyfarwyddwyr Hufenfa De Arfon a pherchennog 140 o wartheg godro gyda'i fab ar fferm yn Llangybi, mae'r marchnad y cwmni wedi newid dros y blynyddoedd.

"Be sy'n bwysig inni ydy ein bod yn cael marchnata ein cynnyrch," meddai.

"Petaech yn edrych yn ôl i'r lle oedden ni yn 1971, roedden ni'n gwerthu miliwn litr drwy'r hufenfa'n lleol o Borthmadog i Bort Dinorwig.

"Ond rŵan rydyn ni'n gwerthu tri chwarter ein cynnyrch y tu allan i'r ardal a'i hanner yn mynd i Loegr.

"Rhaid inni dderbyn hynny os ydyn ni eisiau cadw pris a chadw gwaith yn lleol.

"Ar ddiwedd y dydd rhaid inni gael pris am ein llaeth neu fydd yna ddim cynhyrchu llaeth yn Llŷn ac Eifionydd."

'Positif'

Dywedodd prif weithredwr y cwmni, Alan Wyn Jones, nad oedd y newid yn golygu eu bod yn awgrymu fod y Gymraeg yn rhywbeth negyddol o safbwynt marchnata.

"Mae'r Gymraeg yn rhywbeth hollol bositif," meddai. "Mae ganddon ni yma yn Hufenfa De Arfon bolisi iaith Gymraeg ac rydyn ni wedi cael ein gwobrwyo am ddefnyddio'r Gymraeg oddi fewn i'r busnes.

"Rydyn ni wedi rhoi Cymraeg ac mi fyddan ni yn rhoi, yn y dyfodol, ragor o Gymraeg ar ein brandio.

"Rydyn ni'n gwrando ar beth sydd gan ein cwsmeriaid i'w ddweud oherwydd cwsmeriaid ydy'r bobl bwysicaf ar ddiwedd y dydd.

"Rydyn ni yn datblygu brand i'w werthu drwy Gymru gyfan," meddai.

Yn ddiweddar mae cynnyrch yr hufenfa, a'r brand newydd, wedi cael croeso mewn arddangosfa fwyd ryngwladol yn Llundain.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific