British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 21 Mawrth 2011, 07:03 GMT
66,000 'yn dioddef o diabetes heb wybod'

Chwistrellu inswlin
Mae pobl sy'n dioddef o glefyd y siwgr yn ei reoli drwy chwistrellu inswlin

Mae ymgyrch newydd yn ceisio rhybuddio 66,000 o bobl yng Nghymru eu bod yn dioddef o glefyd y siwgr heb yn wybod iddyn nhw.

Yn ôl Diabetes UK Cymru, mae un o bob 50 o bobl Cymru yn dioddef o'r cyflwr heb wybod hynny.

Mae'r elusen yn rhybuddio y gall y math mwyaf cyffredin o glefyd y siwgr, Math 2, arwain at strôc neu dorri aelod o'r corff i ffwrdd os nad yw'n cael triniaeth.

Mewn plant gall Math 1 arwain at goma neu hyd yn oed farwolaeth.

Mae Diabetes UK wedi anfon posteri i bob meddygfa a fferyllfa yng Nghymru i godi ymwybyddiaeth ond maen nhw hefyd wedi beirniadu Llywodraeth y Cynulliad am beidio â rhoi arweiniad.

Dywedodd Llywodraeth y Cynulliad wrth BBC Cymru eu bod nhw'n canolbwyntio ar sicrhau bod cleifion yn gallu cael gofal o ansawdd fel rhan o'u polisi i daclo cyflyrau cronig.

Hyd at 10 mlynedd

Mae mwy na 150,000 yng Nghymru wedi cael diagnosis o'r clefyd ond cred yr elusen fod y rhan fwyaf o'r 66,000 arall yn dioddef o glefyd y siwgr Math 2 heb yn wybod iddyn nhw.

Mae'r cyflwr yn digwydd pan nad yw'r corff yn gallu cynhyrchu digon o inswlin, neu ddefnyddio'r inswlin y mae'n ei greu, er mwyn rheoli lefel y siwgr yn y gwaed.

Wrth i'r symptomau ddatblygu'n araf, gall pobl ddioddef o'r cyflwr am hyd at 10 mlynedd heb wybod hynny.

Claf yn cael prawf llygad
Gall y clefyd achosi problemau golwg os nad yw'n cael ei drin

Golyga hyn y bydd eu hanner nhw wedi datblygu cymhlethdodau fel clefyd y galon, strôc, afiechyd yr arennau, dallineb neu orfod torri rhan o'r corff, fel coes, i ffwrdd erbyn iddyn nhw gael diagnosis.

Mae'r poster hefyd yn tynnu sylw rhieni a phobl ifanc at y symptomau gan fod gan fwy na 1,500 o blant yng Nghymru â Math 1, cyflwr na ellir ei osgoi ac nad yw'n gysylltiedig â ffordd o fyw.

Fel arfer, bydd Math 1 yn cael ei ddarganfod mewn pobl ifanc dan 40 oed ac mae'r symptomau'n datblygu'n gyflym dros gyfnod o wythnosau.

Os nad yw'n cael ei drin gall arwain at cetoasidosis diabetig - lefelau glwcos peryglus o uchel sy'n gallu arwain at goma neu farwolaeth.

Mae'r posteri yn dweud wrth unrhyw un â symptomau i ymweld â'u meddyg neu nyrs am brawf clefyd y siwgr.

Symptomau

Un o'r wynebau amlwg sy'n cefnogi'r ymgyrch ar ran yr elusen ydy'r darlledwr Chris Needs.

"Fe ges i sioc o glywed fod 'da fi Math 2 10 mlynedd yn ôl."

"Roeddwn wedi bod yn teimlo'n flinedig ac yn ymweld â'r tŷ bach yn amlach ac fe ges i brawf mewn fferyllfa.

Drwy gael diagnosis o'r clefyd yn gynnar gallwch wneud newidiadau yn eich bywyd ac atal eich hun rhag dioddef cymhlethdodau yn yr hir dymor
Dr Sarah Jarvis

"Fe wnes i ddarganfod fod fy lefelau glwcos yn y gwaed naw gwaith yn uwch na'r hyn y dylen nhw fod, yr uchaf roedd y fferyllydd erioed wedi eu gweld.

"Ro'n i'n ofni ar y dechrau ond o fewn hanner awr o gymryd fy nhabled ro'n i'n teimlo gymaint yn well," meddai.

Mae symptomau'r cyflwr yn cynnwys gwneud dŵr yn amlach na'r arfer, yn enwedig yn y nos, teimlo'n fwy sychedig, colli pwysau heb esboniad, cosi cyffredinol neu ddioddef yn rheolaidd o'r llindag (thrush), toriadau yn cymryd amser i wella a golwg aneglur.

Dywedodd Dr Sarah Jarvis, meddyg sydd wedi ymddangos ar raglenni teledu fel One Show a Daybreak: "Os oes gennych chi'r symptomau yma, mae'n hanfodol eich bod yn gweld eich meddyg.

"Drwy gael diagnosis o ddiabetes yn gynnar gallwch wneud newidiadau yn eich bywyd ac atal eich hun rhag dioddef cymhlethdodau yn yr hir dymor."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad: "Mae ffocws Llywodraeth Cynulliad Cymru ar sicrhau fod pobl sydd â chlefyd y siwgr, neu sydd mewn perygl o ddatblygu'r clefyd, yn gallu cael gofal safonol.

"Mae gweithredu Fframwaith y Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Diabetes a'r gwaith sy'n cael ei wneud dros Gymru gyfan fel rhan o'n cynllun Rheoli Cyflyrau Cronig yn anelu at wneud yn union hynny.

"Mae'r Gweinidog Iechyd yn cael cyngor clinigol amlddisgyblaeth am glefyd y siwgr gan y Fforwm Gymru Gyfan, yn ogystal â chyngor am ofal clefyd y siwgr gan y Gyfarwyddiaeth Feddygol o fewn Llywodraeth y Cynulliad dan arweiniad Cyfarwyddwr Meddygol y GIG yng Nghymru, Dr Chris Jones."



HEFYD
Clefyd y Sigwr: 'Niferoedd yn codi'
25 Hyd 10 |  Newyddion
'Angen cefnogi plant chlefyd'
12 Awst 10 |  Newyddion
Clefyd: 'Esgeuluso'r ifanc'
25 Ion 10 |  Newyddion
Clefyd siwgwr: Cyngor am ddim
10 Awst 09 |  Newyddion
Clefyd siwgr: 'Diffyg cysondeb'
22 Meh 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific