British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 18 Mawrth 2011, 19:34 GMT
Cyfarwyddwyr cwmni yn destun ymchwiliad i dwyll

Swyddfa Dwyll Difrifol
Mae'r Swyddfa Dwyll Difrifol yn ymchwilio

Dywed cwmni glo brig Celtic Energy bod ymchwiliad yn mynd rhagddo i ddau o'i gyfarwyddwyr gan y Swyddfa Dwyll Ddifrifol mewn cysylltiad â gwerthu pyllau glo yn ne Cymru.

Daw eu cyhoeddiad yn dilyn penderfyniad cwmni cyfreithiol yng Nghaerdydd i wahardd dau o'i bartneriaid mewn cysylltiad â'r un ymchwiliad.

Mae'r Swyddfa Dwyll Ddifrifol yn ymchwilio i gyhuddiadau o gynllwynio i dwyllo yn gysylltiedig â gwerthu pedwar safle mwyngloddio yn y de.

'Fel arfer'

Dywedodd llefarydd ar ran Celtic Energy: "Gallwn gadarnhau fod dau o'n cyfarwyddwyr yn destun ymchwiliad mewn perthynas â gwerthu pedwar pwll glo yn ne Cymru.

"Tra mae'r ymchwiliad yma'n digwydd ni allwn roi sylw pellach, dim ond i ddweud na fydd hyn yn effeithio ar weithrediad dydd-i-ddydd Celtic Energy ac mae'r busnes yn parhau fel arfer."

Dechreuodd yr ymchwiliad ddydd Mercher pan gafodd pump o bobl eu harestio ac wyth eiddo eu harchwilio gan dros 90 o archwilwyr a swyddogion heddlu.

Roedd dau o'r lleoedd a gafodd eu harchwilio yn Llundain a Birmingham a'r gweddill yn ne Cymru.

Ers hynny mae cwmni cyfreithwyr M and A Solicitors wedi gwahardd dau o'u partneriaid o ganlyniad i gytundeb oedd yn ymwneud ag un o'r cleientiaid a oedd dan ymchwiliad gan y Swyddfa Dwyll Ddifrifol.



HEFYD
Gwahardd cyfreithwyr
18 Maw 11 |  Newyddion
Mwyngloddio: Cynllwyn twyll
16 Maw 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific