British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 19 Mawrth 2011, 10:35 GMT
Gwylwyr y Glannau: Rali arall

Sir Alan Massey yn siarad gyda phrotestwyr
Siaradodd Sir Alan Massey, pennaeth y gwasanaeth, gyda'r protestwyr yn ystod y rali ym mis Chwefror.

Mae grŵp a ffurfiwyd i wrthwynebu cau gorsaf Gwylwyr y Glannau yn Aberdaugleddau wedi trefnu ail rali yn y dref fore Sadwrn.

Fis yn ôl, daeth dros 100 o bobl i rali debyg yn y dref, ond mae'r trefnwyr yn dweud eu bod yn gobeithio gweld mwy yn ymuno'r tro hwn.

Bydd y siaradwyr gwadd yn cynnwys Gweinidog Amgylchedd Cymru, Jane Davidson AC.

Mae Aelodau Seneddol a Chynulliad yr ardal wedi ymuno gydag ymgyrch trawsbleidiol i gadw presenoldeb Gwylwyr y Glannau yn un o borthladdoedd prysuraf Prydain.

Mae mwy na 10,000 wedi arwyddo deiseb yn erbyn cynlluniau i gau'r orsaf yn Aberdaugleddau.

'Aneffeithiol'

O dan gynlluniau Gwylwyr y Glannau fe fydd gorsafoedd Aberdaugleddau a Chaergybi yn cau.

Yr unig un yng Nghymru fydd yn dal ar agor - yn ystod y dydd - fydd yr orsaf yn Y Mwmbwls ger Abertawe.

Dywedodd pennaeth y gwasanaeth fod y drefn bresennol yn "aneffeithiol".

Mae'r rhai sy'n gwrthwynebu'r bwriad i gau'r orsaf yn dweud nad yw gwybodaeth leol am brysurdeb y porthladd wedi cael ei hystyried.

O dan y cynlluniau a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2010, y disgwyl yw y bydd y gorsafoedd yn cau yn ystod 2012 neu 2013.

Mae nifer y gorsafoedd ym Mhrydain yn mynd i ostwng o 18 i 3.

Byddai'r cynlluniau newydd yn golygu y byddai gwasanaeth 24 awr y dydd yn cael ei reoli yn Aberdeen, Dover a Southampton neu Portsmouth.

Bydd cefnogwyr y rali yn ymgynnull am 11:00am fore Sadwrn ar y Cei Mecryll ym marina Aberdaugleddau.

Datganoli

Dywed yr Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Nerys Evans, a fydd yn y rali ddydd Sadwrn, y dylid datganoli gwasanaethau Gwylwyr y Glannau i Lywodraeth y Cynulliad.

"Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn gyfrifol am wasanaethau brys eraill fel y gwasanaeth Ambiwlans a Thân ac mae'r momentwm yn tyfu i ddatganoli gwasanaethau'r Heddlu hefyd meddai.

Ychwanegodd ei bod yn gobeithio bod y ffaith fod y Llywodraeth yn San Steffan wedi ymestyn y cyfnod ymgynghori tan fis Mai yn "arwydd eu bod am ailystyried y cynlluniau peryglus hyn".



HEFYD
Croesawu mwy o gyfnod ymgynghori
13 Maw 11 |  Newyddion
Trafod Gwylwyr y Glannau
04 Maw 11 |  Newyddion
Protest yn erbyn cau gorsaf
19 Chwef 11 |  Newyddion
Mwy na 100 mewn rali
15 Chwef 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific