British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 18 Mawrth 2011, 11:06 GMT
O blaid codi pont 80 medr yn Y Rhyl

Cynllun i'r bont newydd
Mae'r bont newydd yn rhan o'r cynllun ehangach dros Y Foryd

Mae cynghorwyr Sir Ddinbych wedi cymeradwyo cais cynllunio i godi pont droed 80 medr o hyd.

Roedd codi'r bont, fydd yn cynnwys llwybr beic, yn rhan o gynlluniau i ail-ddatblygu'r harbwr yn Y Rhyl ar gost o £9.2 miliwn.

Roedd 18 cynghorydd o blaid codi'r bont, un yn erbyn ac fe wnaeth un ymatal.

Fe fydd Pont Y Foryd yn croesi'r harbwr o Sir Ddinbych i Sir Conwy ac mae cynghorwyr Sir Conwy hefyd wedi cymeradwyo'r cais cynllunio.

68 medr o hyd

Roedd 'na wrthwynebiad i'r cynllun gan fod pobl leol yn poeni am effaith y datblygiad ar yr amgylchedd a bywyd gwyllt.

Fe fydd y bont ei hun tua 68 medr o hyd a'r mast yn y canol yn 50 medr o uchder.

Mae 'na ddiffyg o ran darpariaeth llwybr beicio rhwng siroedd Conwy a Dinbych ac fe fydd y bont newydd yn ateb y galw.

Mae'r cynlluniau ar gyfer Harbwr Foryd yn cynnwys unedau, sgwâr cyhoeddus a gwella'r Stryd Fawr.

'Drutaf'

Dywedodd Cyngor Sir Ddinbych mai'r adfywio oedd eu "prosiect drutaf erioed".

Fe ddaw'r rhan fwyaf o'r arian o Ewrop a dylai'r gwaith gael ei gwblhau erbyn 2013.

Yr amcangyfrif yw y bydd Pont Droed a Beic y Foryd yn costio £4.2 miliwn.

Fe fydd y bont yn ymestyn 80 medr dros yr harbwr ac yn codi i ganiatáu i gychod basio.



HEFYD
Ailddatblygu tref: Lleisio barn
13 Gorff 09 |  Newyddion
Datblygu harbwr Y Rhyl am £9.2m
08 Chwef 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific