British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 18 Mawrth 2011, 08:31 GMT
Ymchwiliad y Swyddfa Dwyll: Gwahardd cyfreithwyr

Swyddfa Dwyll Difrifol
Mae'r Swyddfa Dwyll Difrifol yn ymchwilio

Mae un o gwmnïau cyfreithiol Cymru, sy'n arbenigo mewn cyfraith fasnachol, wedi gwahardd dau bartner mewn cysylltiad ag ymchwiliad gan y Swyddfa Dwyll Difrifol.

Dywedodd cwmni Cyfreithwyr M&A o Gaerdydd fod Alan Whiteley ac Eric Evans wedi cael eu gwahardd o'u gwaith.

Mae'r cwmni wedi dweud bod hyn yn deillio o gytundeb â chleient, ac fe drosglwyddwyd y mater i'r awdurdodau.

Maen nhw wedi pwysleisio mai un digwyddiad yw hwn a bod busnes yn parhau fel arfer.

60 o staff

Yn ôl y cwmni mae 'na 12 o bartneriaid a 60 o staff yn gweithio o'r swyddfeydd ym Mae Caerdydd.

Maen nhw'n gweithio i gleientiaid yn y sector preifat a chyhoeddus.

Mewn datganiad ar wefan y cwmni maen nhw wedi dweud eu bod nhw wedi "gweithredu yn gywir drwy drosglwyddo'r mater i'r awdurdodau ac mae'r Swyddfa Twyll Difrifol yn ymchwilio o ganlyniad i hyn".

"Rydym yn cyd-weithio gyda'r ymchwiliad ac o ganlyniad allwn ni ddim rhoi mwy o fanylion ar hyn o bryd.

"Rydym yn ffyddiog ein bod yn cynnig y gwasanaeth gorau posib i'n cleientiaid ac yn cydweithio gyda nhw i sicrhau bod y gwaith yn parhau fel arfer."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific