British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 18 Mawrth 2011, 09:22 GMT
Staff rhai prifysgolion ar streic

Streic darlithwyr yn Yr Alban
Mae cyfres o streiciau gan ddarlithwyr ar draws y DU

Fe fydd staff mewn pum sefydliad addysg uwch yng Nghymru ar streic ddydd Gwener.

Maen nhw'n anfodlon gyda newidiadau posib i gynlluniau pensiwn.

Mae aelodau o Undeb y Colegau a Phrifysgolion yn gweithredu'n ddiwydiannol mewn 63 o brifysgolion ar draws Prydain.

Mae hynny'n cynnwys staff yn Abertawe, Caerdydd, Bangor, Prifysgol Y Drindod Dewi Sant ac Aberystwyth.

Dywed yr undeb bod aelodau yn anhapus am newidiadau i ddau gynllun.

Dywed Fforwm Pensiynau Cyflogwyr eu bod yn siomedig gyda'r streic.

Newidiadau

Mae darlithwyr coleg a phrifysgolion newydd yn aelodau o Gynllun Pensiwn Athrawon ac wedi pleidleisio o blaid gweithredu yn ddiwydiannol.

Mae tua 75% o aelodau Undeb y Colegau a Phrifysgolion wnaeth bleidleisio wedi cefnogi gweithredu diwydiannol yn ôl yr undeb.

O'r rhai wnaeth bleidleisio, mae 76% mewn addysg bellach a 72% mewn addysg uwch.

Mae aelodau prifysgolion hŷn yn aelodau o gynllun gwahanol.

Pythefnos yn ôl fe wnaethon nhw gefnogi gweithredu o ganlyniad i newidiadau a fydd yn lleihau eu budd-daliadau a chynyddu costau.

Fe wnaeth rhai darlithwyr yn Yr Alban streicio ddydd Iau.

'Siomedig'

Fe fydd staff yng Ngogledd Iwerddon yn gweithredu ddydd Llun gyda'r darlithwyr yn Lloegr yn gweithredu ddydd Mawrth.

Dydd Iau Mawrth 24 fe fydd aelodau'r ddau gynllun yn ymuno gyda diwrnod cenedlaethol o weithredu.

"Mae staff y brifysgol yn gwerthfawrogi eu hawliau pensiwn ac wedi nodi yn glir o'r dechrau oni bai bod y cyflogwyr yn barod i drafod na fydd 'na opsiwn ond gweithredu," meddai Sally Hunt, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb y Colegau a Phrifysgolion.

Mewn ymateb i'r streic ar Fawrth 24 dywedodd llefarydd ar ran Fforwm Pensiynau Cyflogwyr Prifysgolion eu bod "yn siomedig" gyda'r penderfyniad i weithredu am newidiadau amhenodol posib i'r cynlluniau.

"Ar hyn o bryd mae'n edrych yn debyg mai'r undeb yw'r unig un i beidio aros am ganlyniad y trafodaethau rhwng y TUC a'r llywodraeth mewn perthynas â chynlluniau pensiwn y sector gyhoeddus."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific