British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 18 Mawrth 2011, 06:39 GMT
Comedi gan gyflwynwyr ar ddiwrnod Comic Relief

Jamie Owen
Mis yn unig gafodd Jamie Owen i baratoi ar gyfer ei sioe

Ar draws y DU mae pobl yn gwneud pob math o bethau ddydd Gwener er budd elusen Comic Relief.

Mae un o gyflwynwyr newyddion BBC Cymru wedi penderfynu codi arian drwy fod yn ddigrifwr.

Ac mae un o ddigrifwyr Cymru yn mynd i wneud gwaith swyddfa am y diwrnod.

Y llynedd cafodd dros £1.5 miliwn ei godi gan Comic Relief yng Nghymru gyda dros 40 o brosiectau yn derbyn rhoddion.

Bydd Tudur Owen yn cyfnewid lle gydag un o staff Radio Cymru am y diwrnod.

Fe fydd e'n gwneud cyfrifoldebau Manon Rogers, sydd i'w chlywed ar ei raglen bob dydd Sadwrn, wrth iddi hi wneud perfformiad digri i blant ei hen ysgol yn Llanfechell, Ynys Môn.

'Tasgau'r Talwrn'

Ymhlith dyletswyddau Tudur Owen am y diwrnod fe fydd yn rhaid iddo wneud paneidiau te a choffi; gwaith papur sy'n cynnwys taliadau cyflwynwyr a derbyn tasgau Talwrn y Beirdd yn ogystal ag ateb galwadau i raglen Geraint Lloyd rhwng 2 a 3pm.

"Rhaid i mi ymddiheuro i Manon, doeddwn i ddim yn sylweddoli faint o gyfrifoldeb oedd ganddi.

Manon Rogers
Bydd Tudur Owen a Manon Rogers yn cyfnewid gwaith am y diwrnod

"Mae'r dasg o dderbyn tasgau Talwrn y Beirdd yn fy nychryn i.

"Mae'n rhaid i mi ffonio Gerallt Lloyd Owen a dwi'n deall dim am farddoniaeth."

Ychwanegodd bod tasg Manon Rogers yn dipyn o her gan fod hi'n anodd plesio plant 9-10 oed.

Fe fydd cyflwynwyr Radio Cymru yn cyflwyno gwahanol raglenni, wrth i John ac Alun gyd-gyflwyno gyda Geraint Lloyd, Daniel Glyn fydd yn cyflwyno rhan o raglen Nia Roberts a Dylan Jones a Hywel Gwynfryn yn cyfrannu at raglenni C2.

Pedair wythnos o hyfforddiant mae Jamie Owen wedi ei gael i baratoi ar gyfer Diwrnod Trwynau Coch.

Fe fydd yn perfformio yng Nghlwb y BBC yn Llandaf ddydd Gwener a bydd modd ei glywed yn fyw ar Radio Wales rhwng 11 a 11.30am.

Elwa

Mae o wedi cael hyfforddiant gan Logan Murray - wnaeth ddysgu Rhod Gilbert - yn ogystal â'r comediwyr Chris Corcoran a Milton Jones.

"Mae Jamie yn ddyn doniol, mae ei hiwmor yn un sych iawn," meddai Chris Corcoran.

"Fy nghyngor yw iddo ddal i siarad ac fe fydd rhywbeth doniol yn siŵr o ddigwydd."

Mae nifer o brosiectau ar draws Cymru yn elwa o arian Comic Relief.

Roedd un prosiect yn Y Rhyl yn caniatáu i blant ifanc gael lle diogel i gyfarfod, i chwarae a dysgu sgiliau bywyd.

Cafodd Grŵp Ieuenctid Y Rhyl £100,000 oedd yn allweddol ar gyfer rhaglen i godi ymwybyddiaeth o alcohol gan fod yfed o dan oed yn broblem yn yr ardal.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific