Mae'r ddeddf yn rhan o gyfraith Cymru
|
Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i fabwysiadu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant (UNCRC) fel deddf gwlad. Cafodd
Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru)
ei gymeradwyo gan Gyngor y Frenhines, ac mae bellach yn rhan o gyfraith Cymru. Disgrifiodd y Dirprwy Weinidog dros Blant, Huw Lewis, y diwrnod fel un hanesyddol i hawliau plant yng Nghymru. Mae'r mesur yn cynnwys nifer o faterion fydd yn cryfhau ac adeiladu ar hawliau presennol yn seiliedig ar ddull Llywodraeth y Cynulliad wrth ymdrin â pholisïau plant a phobl ifanc hyd at 25 oed. 'Tir newydd' "Mae'n fesur sy'n torri tir newydd ac yn gosod Cymru ymhell ar y blaen i weddill y DU wrth fabwysiadu UNCRC fel rhan o'i chyfraith gwlad," meddai Huw Lewis. "Mae'r ddeddf yn cyffwrdd gyda phob rhan o bolisi, ac felly'n mynd i wneud gwahaniaeth positif i'r modd y mae gwasanaethau a chefnogaeth i blant yn cael ei ddarparu yn y dyfodol." Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Keith Towler: "Mae'r ddeddfwriaeth yma yn garreg filltir bwysig sydd â chefnogaeth drawsbleidiol ym Mae Caerdydd. "Dylwn ymfalchïo fod Cymru a'i llywodraeth yn arwain y ffordd wrth sicrhau lle plant a phobl ifanc fel dinasyddion llawn o'n cenedl." Dywedodd Anita Tiessen, Dirprwy Gyfarwyddwr UNICEF UK: "Mae heddiw'n ddiwrnod balch iawn i Gymru. Mae UNICEF UK wrth ein bodd fod Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) wedi cael sêl bendith Frenhinol. "Mae'n gosod hawliau plant yng nghalon polisïau Cymru ac yn gosod y safon ar gyfer gweddill y DU."
|