British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 17 Mawrth 2011, 12:15 GMT
Ffrae iaith am hysbyseb swydd

Meicroffonau mewn stiwdio radio
Roedd Bwrdd yr Iaith yn bwriadu darlledu hysbysebion ar yr orsaf radio

Mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi tynnu nôl o gytundeb i hysbysebu ar orsaf radio Real Radio oherwydd hysbyseb sy'n dangos 'agwedd sarhaus tuag at y Gymraeg.'

Roedd y Bwrdd wedi bwriadu darlledu hysbysebion ar yr orsaf fasnachol dros yr wythnosau nesaf.

Ond ar ôl gweld disgrifiad am swydd gyda'r orsaf, sy'n dweud ei bod yn rhoi cyfle gwych i rywun ond yn pwysleisio nad oes angen medru'r Gymraeg, mae wedi penderfynu peidio.

Dywed y bwrdd eu bod wedi gwneud y penderfyniad "o ganlyniad i agwedd sarhaus rheolwyr yr orsaf tuag at yr iaith."

Trwydded

Mae Real Radio yn eiddo i'r Guardian Media Group, un o grwpiau radio mwyaf y DU, ac mae wedi bod yn darlledu drwy Gymru gyfan ers mis Ionawr 2011.

Fe fu'r orsaf yn hysbysebu ei gwasanaeth newydd ar deledu yn ddiweddar wedi cael hawl gan Ofcom i gyfuno ei thrwydded yn ne Cymru gyda gogledd a chanolbarth Cymru i greu gwasanaeth cenedlaethol.

Dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Meirion Prys Jones: "Mae agwedd y cwmni darlledu cenedlaethol Real Radio at yr iaith Gymraeg yn annerbyniol.

"Mewn gwlad lle mae i'r Gymraeg statws swyddogol ac lle mae ewyllys da cynyddol tuag ati ym mhob rhan o'r wlad, ymysg y Cymraeg a'r di-Gymraeg fel ei gilydd, mae Real Radio wedi gwneud cam gwag.

A brilliant opportunity has come up at Wales' only national commercial station, Real Radio … And, no, you don't have to speak Welsh!
Hysbyseb gan Real Radio

"Cam gwag a fydd yn costio iddynt yn ariannol, gan nad ydym ni bellach yn mynd i barhau â'n cynlluniau i hysbysebu ar yr orsaf."

'Gwarthus'

Gofynnodd y BBC i Real Radio am sylw ond nid ydynt wedi ymateb eto.

Mae'r frawddeg dan sylw bellach wedi cael ei thynnu o hysbysebion am y swydd ar y we.

Dywedodd Cymdeithas yr Iaith eu bod yn bwriadu anfon cwyn swyddogol at Real Radio, yn ogystal ag Ofcom a Bwrdd yr Iaith Gymraeg, yn sgil yr hysbyseb.

Dywedodd Bethan Williams, cadeirydd y gymdeithas: "Y jôc go iawn yw'r ffaith bod Real Radio yn darlledu yn genedlaethol heb orfod darparu unrhyw wasanaethau Cymraeg.

"Mae'r ffaith fod gorsaf radio yn diystyru'r Gymraeg yn gwbl warthus ar ôl iddynt gael trwydded ar draws y wlad."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific