British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 16 Mawrth 2011, 19:34 GMT
Arestio pump mewn ymchwiliad i dwyll

Pencadlys y Swyddfa Dwyll Ddifrifol
Mae 90 o archwilwyr o'r Swyddfa Dwyll Ddifrifol yn ymwneud 'r ymchwiliad

Mae pump o bobl wedi eu harestio mewn ymchwiliad i gynllwyn o dwyll mewn perthynas â gwerthu pedwar safle mwyngloddio yn ne Cymru.

Cafodd wyth eiddo eu harchwilio gan y Swyddfa Dwyll Ddifrifol.

Mae'r rhai sydd wedi eu harestio yn cynnwys tri dyn o dde Cymru - 65, 36 a 31 oed - dyn 47 oed o Lundain a dynes 28 oed o Birmingham. Mae'r pump wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Cafodd saith cartref eu chwilio - pump yn ne Cymru, un yn Llundain ac un yn Birmingham.

Archwiliwyd un eiddo busnes yn ne Cymru hefyd.

Mae'r ymchwilwyr yn ystyried cyhuddiadau o gynllwynio i dwyllo yn gysylltiedig â gwerthu'r safleoedd.

Mae dros 90 o archwilwyr o'r Swyddfa Dwyll Ddifrifol a swyddogion o Heddlu De Cymru, Heddlu Gwent, yr Heddlu Metropolitan a Heddlu Canolbarth Lloegr wedi ymwneud â'r ymholiad.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific