Roedd Hywel Teifi Edwards yn gyfrannwr cyson ar deledu a radio Cymraeg
Cofio Hywel Teifi Edwards oedd yn digwydd ym Mhrifysgol Abertawe ddydd Iau.
Cafodd caffi 'Hoffi Coffi' ei agor gan Huw Edwards, mab Hywel Teifi Edwards yn Academi Hywel Teifi ar gampws y brifysgol ym Mharc Singleton a sefydlwyd i ddathlu bywyd a chyfraniad yr ysgolhaig.
Mae'r caffi newydd yn fan cyfarfod i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg y brifysgol o fewn Academi Hywel Teifi.
Rebecca Hayes fu yn agoriad swyddogol y caffi
Yn ogystal, fe wnaeth Mr Edwards, sy'n gymrawd er anrhydedd o Brifysgol Abertawe, ddadorchuddio murlun o awdl fuddugol Yr Athro Tudur Hallam, o Adran y Gymraeg Prifysgol Abertawe.
Fe enillodd Yr Athro Hallam Gadair Eisteddfod Genedlaethol 2010 gyda cherdd deyrnged i Hywel Teifi.
Mae'r brifysgol wedi penodi Gwenno Ffrancon yn Gyfarwyddwr cyntaf yr Academi, a'r Athro Hallam i Gadair yn y Gymraeg yn yr Academi.
"Mae Prifysgol Abertawe yn falch iawn o'r ffaith ein bod heddiw yn agor, yng nghwmni Huw Edwards, caffi Hoffi Coffi ar gampws hardd y brifysgol," meddai Dr Ffrancon.
Gwenno Ffrancon a Tudur Hallam
"Bydd Hoffi Coffi yn cefnogi amcanion Academi Hywel Teifi, sefydliad newydd o fewn y Brifysgol sydd yn hyrwyddo addysg ac ymchwil cyfrwng Cymraeg ac yn hybu cydweithio, mentergarwch a chreu cyfleoedd trwy gyfrwng y Gymraeg, gan y bydd yn fan naturiol i staff a myfyrwyr cyfrwng Cymraeg y Brifysgol i gymdeithasu, rhywbeth y byddai Hywel Teifi wedi ei gefnogi'n gryf, rwy'n siŵr."
Bu farw Mr Edwards, hanesydd a darlledwr, ym mis Ionawr 2010 yn 75 oed.
Bu'n bennaeth ac Athro'r Adran Gymraeg ym mhrifysgol Abertawe.
Nod yr Academi yw "hyrwyddo'r diwylliant a'r iaith Gymraeg yn y Brifysgol" a hynny drwy ddod 'ar Adran Gymraeg a'r ganolfan Cymraeg i Oedolion ynghyd ar un safle."
Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.