British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 16 Mawrth 2011, 13:27 GMT
2,000 yn fwy'n ddi-waith yng Nghymru

Dynes yn mynd i Ganolfan Waith
Mae cyfanswm o 126,000 yn ddi-waith yng Nghymru

Yn ôl yr ystadegau diweddara, mae 'na 2,000 yn fwy o bobl yn ddi-waith yng Nghymru.

Mae'r ffigyrau yn cyfeirio at y rhai oedd ddim mewn gwaith rhwng mis Tachwedd 2010 a mis Ionawr 2011.

Ond maen nhw'n awgrymu gostyngiad o 7,000 yn ystod y flwyddyn.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cymru ei bod yn croesawu'r newyddion "yn ofalus" gan fod yr ystadegau misol yn tueddu i gael eu dehongli'n wahanol gan bawb.

Cyfanswm y rhai sy'n ddi-waith yng Nghymru yw 126,000 (8.7%), mwy na 0.5% yn uwch na'r cyfartaledd drwy Brydain.

'Sgileffeithiau'

Ond dros y mis diwethaf gostyngodd nifer yr enwau ar y gofrestr budd-daliadau diweithdra o 1,000 - i ychydig dros 7,000.

Dywedodd Cheryl Gillan fod y ffigyrau diweithdra yn dal i godi a bod 'na ostyngiad yn nifer y rhai oedd yn gwneud cais am fudd-daliadau.

"Mae 'na arwyddion calonogol ond rhaid i ni barhau i gyd-weithio i ddelio â sgileffeithiau polisïau'r llywodraeth flaenorol.

"Mae 'na fwy o'r rhai sy'n economaidd anweithgar yng Nghymru nag yn unrhyw le arall yn y DU ac eithrio Gogledd Iwerddon a gogledd ddwyrain Lloegr.

"Ond y gyfradd gyflogaeth yn y ddau le yw'r drydedd isa yn y DU."

Ar ei huchaf

Trwy Brydain, mae 'na awgrym fod nifer y di-waith ar ei huchaf ers 1994 ac mae'r rhai rhwng 16 a 24 oed sy'n ddi-waith ar ei lefel ucha erioed.

Yn ôl Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau Llywodraeth Prydain, Iain Duncan Smith, mae'r ffigyrau sy'n ymwneud â phobl ifanc yn cuddio'r ffaith fod pobl mewn addysg llawn-amser yn gallu cael eu hystyried yn ddi-waith os ydyn nhw'n chwilio am waith ar ben eu hastudiaethau.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific