British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 16 Mawrth 2011, 10:58 GMT
Dyn 62 oed wedi marw mewn safle yn Sir Ddinbych

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio ar ôl damwain ddiwydiannol yn Sir Ddinbych.

Bu farw Kenneth Michael Cooke, 62 oed, ar safle cwmni Sanders Machinery yn Ffordd y Graig, Dinbych, ddydd Llun.

Roedd yn byw ym mhentre Llanrhaeadr ger Dinbych.

Mae Cyngor Sir Ddinbych hefyd yn ymchwilio.

Cafodd plismyn eu galw i safle'r cyflenwyr peiriannau diwydiannol am 11.12am ddydd Llun.

Mae Crwner Gogledd Ddwyrain Cymru, John Gittins, yn agor cwest i'r farwolaeth ddydd Mercher.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific