British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 15 Mawrth 2011, 21:52 GMT

Ffrae am sillafiad 'Llandaf' ar arwyddion yng Nghaerdydd

Yn dilyn ffrae am ddiffyg dwyieithrwydd ar arwyddion newydd i groesawu ymwelwyr i Landaf yng Nghaerdydd - mae'r arwyddion wedi cael eu tynnu lawr dros nos.

Roedd Cyngor Caerdydd wedi rhoi caniatad cynllunio i Gymdeithas Llandaf i godi'r arwyddion. Ond mae'r cyngor wedi penderfynu eu symud ar ôl derbyn nifer o gwynion bod yr arwyddion yn dangos yr enw Saesneg yn unig.

Maen nhw'n dweud y bydd Swyddogion o Adran Briffyrdd y Cyngor ac Uned yr Iaith Gymraeg yn cwrdd ag aelodau Cymdeithas Llandaf cyn bo hir i adolygu'r mater a thrafod y ffordd ymlaen.

Mae Bwrdd yr Iaith wedi dweud mai Llandaf gydag un 'f' sy'n gywir. Yn ôl canllawiau'r bwrdd "dylid anelu at arfer un ffurf pan nad oes ond llythyren neu ddwy o wahaniaeth rhwng y ffurf Gymraeg a'r ffurf Seisnig, gan dueddu at y ffurf Gymraeg"

Dyna hefyd ddymuniad yr Arolwg Ordnans ac Awdurdodau'r Priffyrdd medd Bwrdd yr Iaith.

Gwenfair Griffith sy'n adrodd o Landaf.

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific