British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 15 Mawrth 2011, 13:57 GMT
Swydd plismon amaeth i ddod i ben

Logo Gwarchod Ffermydd
Deellir y bydd y cynllun yn parhau, ond nid y swydd arbenigol

Bydd swydd plismon i ofalu'n benodol am y diwydiant amaeth yng Ngwynedd yn cael ei diddymu.

Cyhoeddwyd y newyddion mewn cyfarfod o gynghorwyr wrth iddyn nhw holi plismon am droseddu diweddar yn y maes.

Cafodd 12 o bobl eu harestio yn ardaloedd Dwyfor a Meirionnydd o Wynedd fel rhan o gynllun Gwarchod Ffermydd Heddlu Gogledd Cymru.

Clywodd cynghorwyr yn Nolgellau bod y 12 wedi eu harestio ar amheuaeth o ddwyn o dir ffermydd dros y pythefnos diwethaf.

Peiriannau a stoc

Ffermio yw'r diwydiant mwyaf mewn ardaloedd gwledig, ac yn y gorffennol roedd plismon penodol i'r diwydiant
Arolygydd Mark Armstrong

Dywedodd yr Arolygydd Mark Armstrong wrth yr aelodau bod y cynllun yn golygu gyrru neges-destun i ffermwyr pan oedd achos o ddwyn o ffermydd yn eu hardaloedd.

"Ers y Nadolig cafodd llawer o eiddo ei ddwyn gan gynnwys peiriannau, olew tanwydd a stoc anifeiliaid," meddai.

"Diolch i gynllun Gwarchod Ffermydd, rydym wedi arestio 12 o bobl dros y pythefnos diwethaf yn ardal Dwyfor a'r Bala, ac roedd bob un o'r 12 o'r tu allan i'r ardal."

'Diwydiant mwyaf'

Roedd Mr Armstrong yn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Evie Morgan Jones, a ofynnodd hefyd a oedd hi'n wir na fyddai plismon i'r diwydiant amaeth yn y dyfodol.

Atebodd yr Arolygydd Armstrong: "Ffermio yw'r diwydiant mwyaf mewn ardaloedd gwledig, ac yn y gorffennol roedd plismon penodol i'r diwydiant.

"Rwyf wedi cael gwybod y bydd newidiadau'n golygu na fydd y swydd yma'n parhau.

"Bydd gennym blismyn cymunedol a chefnogol, a byddwn yn disgwyl y byddai gan rain ddealltwriaeth o'r diwydiant amaeth, a sut i gadw cysylltiad gyda'r gymuned ffermio."

Pwysleisiodd yr Arolygydd Armstrong ei bod hi'n bwysig i ffermwyr a'r heddlu weithio gyda'i gilydd i atal trosedd mewn ardaloedd gwledig, a bod llwyddiant cynllun Gwarchod Ffermydd yn dyst i hynny.



HEFYD
Cynllun i atal troseddau ffermydd
15 Gorff 10 |  Newyddion
Plismon newydd i gefn gwlad
16 Rhag 04 |  Newyddion
Ategu rhybudd am ddwyn o ffermydd
29 Rhag 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific