British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 15 Mawrth 2011, 11:03 GMT
Hafina Clwyd wedi marw

Hafina Clwyd
Roedd Hafina Clwyd yn awdur a cholofnydd adnabyddus

Bu farw'r awdur a'r colofnydd, Hafina Clwyd.

Roedd hi'n 74 oed ac wedi bod yn sâl gyda chanser.

Roedd hi'n adnabyddus fel colofnydd ac awdur 11 o lyfrau, a hi oedd golygydd olaf cylchgrawn Y Faner.

Bu hefyd yn Faer tref Rhuthun rhwng 2008 a 2009 ac yn gynghorydd tref rhwng 1999 a mis Chwefror eleni.

Cafodd ei geni yng Ngwyddelwern a'i magu yn Nyffryn Clwyd ac yn y 1950au aeth i'r coleg ym Mangor i hyfforddi i fod yn athrawes.

Fel llawer yn y cyfnod hwnnw aeth i Lundain i chwilio am waith, ac wedi cyrraedd yno ymroi i fywyd Cymraeg y ddinas yng nghwmni pobl fel Ryan Davies, Rhydderch Jones a Gwenlyn Parry.

Yn 1962 dechreuodd gyfrannu i gylchgrawn Y Faner, oedd dan olygyddiaeth Gwilym R Jones ar y pryd.

'Llawn egni'

Fe wnaeth barhau i gyfrannu yng nghyfnodau Jennie Eirian Davies ac Emyr Price.

Symudodd yn ôl i fyw i Gymru yn 1980 a chael ei phenodi'n olygydd Y Faner yn 1986.

Roedd hi'n llawn egni, ac roedd hi'n gweithio yn gyflym ac yn drefnus
Luned Meredith

Cyn-berchennog Y Faner

Dywedodd Luned Meredith, cyn-berchennog Y Faner, bod "Hafina yn mwynhau'r her o roi'r Faner at ei gilydd bob wythnos".

"Roedd hi'n llawn egni, ac roedd hi'n gweithio yn gyflym ac yn drefnus.

"Ei phleser hi oedd rhannu ei gwybodaeth a'i chariad at hanes a llenyddiaeth phopeth oedd yn bwysig yng Nghymru hefo'r darllenwyr.

"Ond roedd hi hefyd â gorwelion eang iawn. A dyna - ynghyd â'i dycnwch a'i chrebwyll a'i phersonoliaeth afieithus - a'i gwnaeth hi yn olygydd mor dda."

Ar ôl i'r Faner ddod i ben, fe barhaodd Hafina Clwyd i gyfrannu'n helaeth i bapurau newydd a chylchgronau gan gynnwys Y Western Mail, Y Cymro a'r Wawr.

Cafodd ei hurddo i'r Orsedd yn 1992 a'i gwneud yn Gymrawd er Anrhydedd Prifysgol Cymru Bangor yn 2005.

Roedd hi hefyd yn gyfrifol am sefydlu a golygu am gyfnod, bapur bro ardal Rhuthun, Y Bedol.

Dros y blynyddoedd fe ysgrifennodd 11 o gyfrolau.

Bydd ei chyfrol olaf, 'Mynd Drwy'r Gwrych' - detholion o'i dyddiaduron hyd y flwyddyn 1999, pan gollodd ei gŵr Cliff Coppack - yn cael ei chyhoeddi ym mis Mehefin.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific