British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 14 Mawrth 2011, 16:02 GMT
Cofio Selwyn Roderick

Selwyn Roderick
Selwyn Roderick oedd cynhyrchydd cyntaf y BBC yng Nghymru

Bu farw Selwyn Roderick, un o gynhyrchwyr teledu cyntaf y BBC yng Nghymru, yn 82 mlwydd oed.

Roedd Selwyn Roderick yn ffigwr allweddol yn natblygiad teledu yng Nghymru gan arloesi yn y cyfrwng yn y Saesneg a'r Gymraeg, a hynny ar draws ystod eang o feysydd.

Gweithiodd ar raglenni mor amrywiol â 'Come Dancing', 'Songs of Praise' a 'Your Life in Their Hands'.

Fe'i cofir hefyd am gynhyrchu'r rhaglen ddogfen gofiadwy am Batagonia, 'Plant y Paith', gydag Owen Edwards a 'Wales, Wales!', y gyfres ddadleuol a nodedig gyda Dai Smith.

Cyd-weithiodd yn ogystal gyda'r hanesydd morwrol, Aled Eames, ar nifer o raglenni blaengar.

Mae nifer o bobl yn ystyried 'Tamed and Shabby Tiger' - rhaglen ddogfen am fywyd yn Tiger Bay, Caerdydd ym 1968 - fel ei gampwaith.

'Pleser'

Dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru, Keith Jones, bod Mr Roderick yn "arloeswr pwysig".

"Roedd ganddo rôl bwysig", meddai.

"Gosododd seiliau cadarn ar gyfer y cyfrwng yn ogystal â phontio'r datblygiadau arloesol yng ngwasanaethau teledu a hynny yn y Gymraeg a'r Saesneg.

"Cefais y fraint o weithio gyda Selwyn am gyfnod ac roedd yn bleser.

"Dwi'n cydymdeimlo yn bersonol ac ar ran BBC Cymru gyda'r teulu ac yn diolch am y cyfraniadau arbennig a phwysig wnaeth i'r diwydiant."

Dywedodd Yr Athro Dai Smith fod Mr Roderick yn "gymeriad hoffus".

"Fe ddes i i'w adnabod gyntaf pan ofynnodd i mi gyflwyno cyfres Wales! Wales? gafodd eu harddangos ar draws y DU ar BBC2 yn 1985.

"Roedd eisoes yn ffigwr adnabyddus fel gwneuthurwr ffilm i'r BBC ac wedi gwneud rhaglenni dogfen pwysig iawn."

'Dychymyg'

Wrth dalu teyrnged i Mr Roderick, dywedodd y Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones, ei fod yn "un o wir arloeswyr darlledu - yng Nghymru ac ar draws rhwydwaith y BBC".

"Roedd ar flaen y gad wrth ddatblygu teledu yng Nghymru ac mae modd i ni fod yn eithriadol o ddiolchgar iddo am y gwaith y gwneud ef a'i gyfoedion.

"Bydd Selwyn Roderick yn cael ei gofio fel un a dorrodd dir newydd, yn llawn dychymyg.

" Roedd yn hynod falch o'i wreiddiau fel un o ddisgynyddion William Williams Pantycelyn, ac mae diwylliant cyfoes Cymru'n gyfoethocach oherwydd cyfraniad gwerthfawr yr arloeswr hwn."

Mae'n gadael gwraig a thri o blant.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific