Clive McGregor: 'Mi allai'r gweinidog wahardd holl aelodau'r cyngor a rhedeg y cyngor yng Nghaerdydd'
|
Mae BBC Cymru yn deall y gallai Gweinidog Llywodraeth Leol y Cynulliad, Carl Sargeant, gyhoeddi'r wythnos hon y bydd comisiynwyr yn cael eu penodi i redeg Cyngor Ynys Môn. Mae ffynhonnell yn Llywodraeth y Cynulliad wedi dweud wrth BBC Cymru fod y sefyllfa o fewn yr awdurdod "wedi mynd yn rhy bell". Deellir bod y camau'n golygu nad yw cynghorwryr etholedig yn rhedeg y cyngor. Yn wreiddiol, roedd arweinwyr gwleidyddol a swyddogion y Swyddfa Archwiliad i fod i gyfarfod yn Llangefni ddydd Llun er mwyn clywed canlyniadau ymchwiliad y mae'r gweinidog wedi ei orchymyn. Ond mae'r cyfarfod wedi cael ei ohirio. Manylion Deellir nad yw'r adroddiad archwiliad, y mae Mr Sargeant wedi seilio ei benderfyniad arno, yn cynnwys argymhellion. Ond dywedodd Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru, John Stevenson, y byddai manylion yr "ymyriad allanol" yn natganiad y gweinidog yr wythnos hon. Ar raglen The Politics Show dywedodd arweinydd y cyngor, Clive McGregor, fod Mr Sargeant wedi galw am "adolygiad byr a thrylwyr" ym mis Chwefror. "Mi allai'r gweinidog wahardd holl aelodau'r cyngor," meddai, "a rhedeg y cyngor yng Nghaerdydd. 'Enw da' "Mae'r cyngor wedi colli ei enw da ers mwy nag 20 mlynedd." Pan honnwyd bod y sefyllfa wedi gwaethygu pan oedd wrth y llyw dywedodd: "Mi ymunais â'r cyngor yn 2008. "Efallai y gallwn i fod wedi gwneud rhai pethau'n wahanol ... efallai 'mod i wedi gwneud camgymeriadau ond nid dwywaith."
|