British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 15 Mawrth 2011, 06:56 GMT
Cyhuddo dyn o lofruddiaeth ar l tn

Pencadlys
Fe gafodd plismyn eu galw i Westy'r Gateway Express am 10.10pm nos Fercher

Mae Heddlu Gwent wedi cyhuddo dyn 27 oed o Gasnewydd o lofruddiaeth ar ôl i ddyn farw mewn tân yn y ddinas.

Bu farw'r dyn lleol yn ei dridegau yn Ysbyty Treforys, Abertawe, ddydd Sadwrn.

Fe gafodd plismyn eu galw i Westy'r Gateway Express yn Heol Casgwent, Casnewydd, am 10.10pm nos Fercher.

Roedd y dyn yn gorwedd o flaen yr adeilad ac mae'n bosib ei fod wedi bod yn cysgu yn yr awyr agored.

Mae archwiliadau meddygol wedi dangos fod anafiadau eraill ar wahân i losgiadau ond does dim tystiolaeth, meddai'r heddlu, iddo gael ei saethu neu ei drywanu.

Mae disgwyl i'r dyn 27 oed ymddangos o flaen ynadon yng Nghaerffili bore dydd Mawrth.



Chwiliwch yn Gymraeg


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific