British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 11 Mawrth 2011, 21:53 GMT
S4C: Protestwyr iaith yn trafod phennaeth y BBC

S4C, sgrin BBC
O 2013 ymlaen bydd S4C yn cael ei hariannu'n rhannol gan arian trwydded y BBC

Roedd Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC yng Nghaerdydd ddydd Gwener yn cwrdd â rhai o aelodau Cymdeithas yr Iaith.

Mae'r mudiad iaith yn poeni am annibyniaeth a chyllid S4C ar ôl i Lywodraeth San Steffan benderfynu ariannu'r sianel drwy arian trwydded y gorfforaeth.

Dywedodd Mr Thompson fod y BBC yn credu mewn "S4C gref ac annibynnol".

Ond mae'r mudiad iaith wedi yn galw am ymgynghoriad cyhoeddus ac am i'r BBC dynnu allan o drafodaethau â'r llywodraeth ac S4C.

Eisoes maen nhw cynnal rali fawr yng Nghaerdydd a phrotestiadau yn swyddfeydd y BBC yn Llandaf ac yng Nghaerfyrddin.

'Golygyddol annibynnol'

Fe fu Mr Thompson yng Nghaerdydd yn cwrdd â chynrychiolwyr y sector gynhyrchu annibynnol, y Prif Weinidog, Carwyn Jones ac Elan Closs Stephen, Ymddiriedolwr Cenedlaethol y BBC yng Nghymru.

Dywedodd fod y BBC yn gwbl ymroddedig i wasanaethau Cymraeg.

"Does dim bwriad o gwbl i'r BBC draflyncu S4C," meddai.

"Mae Ymddiriedolaeth y BBC wedi gwneud ei hymroddiad i S4C sy'n olygyddol annibynnol yn gwbl glir.

Mark Thompson
Dywedodd Mr Thompson nad oedd gan y BBC unrhyw fwriad i 'draflyncu' S4C

"Yn ein cyfarfod â Chymdeithas yr Iaith Gymraeg heddiw, fe bwysleisiodd Elan Closs Stephens a finnau safbwynt y BBC - sef na all ac nad yw cynigion Llywodraeth y DU yn golygu y bydd y BBC yn meddiannu S4C."

Ond mae'r mudiad iaith wedi dweud eu bod yn parhau i boeni am y cynllun cyllido.

"Rydyn ni'n pryderu fod y llywodraeth a'r BBC ddim yn gwybod beth maen nhw'n ei wneud," meddai Bethan Williams, Cadeirydd y Gymdeithas, wedi'r cyfarfod.

"Rydyn ni wedi gofyn yn ffurfiol i'r BBC dynnu mas o'r ddêl gyda'r llywodraeth am eu bod yn rhoi dyfodol S4C yn y fantol a hefyd i dynnu mas o'r trafodaethau gydag S4C am eu bod nhw'n hollol annemocrataidd."



HEFYD
S4C: Galw am gyfarfod brys
22 Chwef 11 |  Newyddion
200 yn protestio am S4C
19 Chwef 11 |  Newyddion
'Ddim yn gorfod ariannu S4C'
11 Ion 11 |  Newyddion
Ymgyrchwyr iaith yn protestio am S4C
31 Ion 11 |  Newyddion
'Pwysig i S4C fod yn annibynnol'
19 Tach 10 |  Newyddion
S4C: Dim cais am adolygiad
10 Ion 11 |  Newyddion
100 mewn protest am S4C
10 Ion 11 |  Newyddion
Llywydd yn gwrthod talu'r drwydded
02 Rhag 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific