British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 11 Mawrth 2011, 19:34 GMT
Chevron yn canfod prynwr i burfa Penfro

Purfa Chevron
Mae'r burfa werth £1.5 miliwn yr wythnos i economi'r sir

Mae cwmni Chevron wedi dod o hyd i brynwr i'w burfa olew yn Sir Benfro, sy'n cyflogi tua 1,400 o bobl.

Dywed y cwmni o'r Unol Daleithiau ei fod wedi dod i gytundeb gyda chwmni Valero, sydd hefyd yn gwmni Americanaidd.

Mae gobeithion y bydd y gwerthiant yn rhoi sicrwydd i ddyfodol y burfa ym Mhenfro sy'n cynhyrchu 220,000 o fareli o olew crai y dydd.

Credir ei fod werth tua £1.5 miliwn yr wythnos i economi'r sir.

Mae Valero, a fydd hefyd yn prynu busnesau marchnata a logisteg Chevron yn y DG ac Iwerddon, wedi dweud eu bod yn bwriadu cadw'r holl staff.

Mae gwaith Chevron wedi bod ar y farchnad ers blwyddyn fel rhan o gynllun y cwmni ar gyfer "ailstrwythuro byd-eang".

Cytunodd Valero i dalu $730 miliwn (£456 miliwn) am y burfa olew a $1 biliwn (£625 miliwn) am yr asedau.

'Proffidiol'

Dywedodd cadeirydd a phrif swyddog gweithredu'r cwmni, Bill Klesse, fod purfa Penfro wedi aros yn broffidiol er gwaetha'r dirywiad yn yr economi yn 2009.

Dyma gam cyntaf cwmni Valero i ehangu i Ewrop.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru Cheryl Gillan: "Mae hwn yn newyddion gwych a gobeithio y bydd yn sicrhau dyfodol hir dymor y burfa ym Mhenfro.

"Rydw i wedi siarad â Chevron ac yn falch o gael sicrwydd am ddyfodol y burfa a'i weithlu. Fe fyddaf yn siarad gyda Valero yn fuan ac yn pwysleisio pa mor bwysig yw rôl y burfa i economi'r ardal ac yn genedlaethol."

Cyfraniad enfawr i'r economi

Dywedodd dirprwy arweinydd Cyngor Sir Penfro John Allen-Mirehouse y byddai'r awdurdod yn gofyn am gyfarfod mor fuan â phosib gyda Valero.

"Rydyn ni'n croesawu bod y cyfnod o ansicrwydd i'r gweithwyr wedi dod i ben yn dilyn cyhoeddiad heddiw ... mae wedi bod yn 12 mis anodd iddyn nhw i gyd," ychwanegodd.

"Mae purfa Penfro yn allweddol i economi Sir Benfro ac yn gwneud cyfraniad enfawr i economi Cymru a'r DG."

Dywedodd Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Economi Cymru Ieuan Wyn Jones: "Rydyn ni nawr yn aros am fwy o fanylion am y cais.

"Rydw i wedi siarad â Chevron heddiw ac wedi gofyn am gyfarfod gyda Valero i drafod eu cynlluniau er mwyn ceisio sicrwydd am waith a buddsoddiad yn y safle i'r dyfodol."

Mae purfa olew arall yn Sir Benfro hefyd ar werth ar hyn o bryd.

Mae purfa Murco yn Aberdaugleddau yn cyflogi tua 370 o bobl ac ar y farchnad ers mis Gorffennaf 2010.



HEFYD
Pryder am fod purfa ar werth
23 Gorff 10 |  Newyddion
Chevron yn chwilio am brynwr
09 Maw 10 |  Newyddion
Pryder am swyddi purfa olew
21 Ion 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific