British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 11 Mawrth 2011, 07:25 GMT
Nodyn uchel

John Pierce
John Pierce o Dreffynnon fydd cynrychiolydd Cymru yn y gystadleuaeth eleni.

Tenor o Sir Y Fflint fydd yn cynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Canwr Y Byd Caerdydd y BBC eleni.

John Pierce o Dreffynnon fydd yr unig ganwr o Gymru ymysg yr 20 cystadleuydd o bedwar ban byd.

Mae'r tenor 28 oed wedi astudio o dan Jeffrey Lawton yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd.

Ar hyn o bryd mae'n astudio yn y Stiwdio Opera Genedlaethol yn Llundain.

Kiri

Heb amheuaeth mae'n un o'r cystadlaethau pwysicaf yn y byd
Bryn Terfel

Eisoes mae John wedi canu rhannau opera Rodolfo yn La Boheme, Boris yn Katya Kabanova ac Alfredo yn Die Fledermaus.

Yn y dyfodol, ei fwriad yw perfformio rôl Pinkerton yn Madame Butterfly i Gwmni Opera Canolbarth Cymru, a chyngherddau gyda cherddorfa St John's yn Llundain a Rhydychen.

Bydd cystadleuaeth Canwr Y Byd Caerdydd y BBC yn digwydd rhwng Mehefin 12-19 2011.

Fe fydd y cystadleuwyr eleni yn perfformio o flaen y Fonesig Kiri Te Kanawa wrth iddi hi ddechrau ar ei rôl fel noddwr yr Ŵyl am y tro cyntaf.

Fe fydd yr enillydd yn derbyn £15,000.

'Amhrisiadwy'

Ym 1989, llwyddodd Bryn Terfel i gyrraedd y rownd derfynol cyn mynd ymlaen i lwyddiant byd eang. Eglurodd fod cystadlu yno yn gallu bod yn hwb i yrfa canwr.

"Mae Canwr Y Bydd Caerdydd a BBC yn gyfle gwych ac amhrisiadwy.

"Mae'n agor drysau. Fe wnaeth dau dy opera y gwnes i berfformio ynddyn nhw'n ddiweddarach - y Staatsoper yn Vienna a Thŷ Opera Munich - fy ngweld yn y gystadleuaeth a 'ngwahodd am glyweliad gyda nhw.

"Heb amheuaeth mae'n un o'r cystadlaethau pwysicaf yn y byd."




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific