Clywodd y llys fod Davies wedi twyllo un pensiynwraig o bron i £95,000
|
Mae cwpl wedi eu carcharu am dwyllo pensiynwyr yng ngogledd Cymru o £116,000. Cafodd John Leslie Davies, adeiladwr 66 oed, ei garcharu am bedair blynedd a hanner tra cafodd Rhian Jones, 49, ddwy flynedd. Clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug fod un pensiynwraig wedi colli mwy na £90,000 ar ôl i Davies ennill pŵer twrnai dros ei harian. Dywedodd y barnwr fod y ddau o'r Waunfawr yng Ngwynedd wedi manteisio ar eu dioddefwyr "yn unswydd er budd ariannol personol". Clywodd y llys fod y cwpl wedi dod yn ffrindiau gyda gwragedd hŷn o Lanystumdwy, Pwllheli ac Abergele - oedd yn 80, 75 a 74 oed - cymryd arian ganddyn nhw, a chodi prisiau afresymol am waith ar eu cartrefi, a oedd weithiau yn ddiangen. Dywedwyd wrth y llys fod y pâr wedi mynd ar wyliau tramor ac ar long bleser gyda rhywfaint o'r arian. Dywedodd yr erlynydd, y bargyfreithiwr Simon Medland, fod y cwpl wedi "byw yn ddi-dreth, ar arian parod am gyfnod o dair blynedd gan gasglu symiau sylweddol o arian drwy gogio gwneud gwaith adnewyddu, trwsio ac adeiladu mewn cartrefi pobl hŷn, fregus oedd yn aml yn bobl gymysglyd hefyd ". Plediodd Davies yn euog i 18 cyhuddiad o dwyll, dwyn, cuddio eiddo troseddol ac ennill gweithrediad gwarant gwerthfawr drwy dwyll. Roedd Jones wedi gwadu pum cyhuddiad ond fe'i cafwyd yn euog yn unfrydol mewn achos llys fis Rhagfyr. Dywedodd y barnwr Niclas Parry wrthyn nhw fod eu hymddygiad yn "ddirmygadwy". "Dros gyfnod o rhwng pedair a chwe blynedd fe aethoch chi ati yn systematig i dargedu a thwyllo pobl hŷn, gymysglyd, dryslyd a bregus yn feddyliol," meddai. Clywodd y llys fod gan y ddau euogfarnau blaenorol a bod Davies, sydd bellach yn aros am driniaeth ar ei galon, wedi ei gael yn euog o 73 o droseddau blaenorol. Bydd gwrandawiad dan y Ddeddf Enillion Troseddol yn cael ei gynnal fis Mehefin.
|