Mae cotiau hir, meddal, geifr Kashmir yn cael eu defnyddio i wneud gwlân 'cashmere'
|
Mae prifathro yn dweud fod gormod o eifr gwyllt yn byw ar y Gogarth yn Llandudno wedi iddo'u dal yn difrodi eiddo yn ei ysgol. Mae pryder wedi bod ers tro yn lleol fod poblogaeth y geifr Kashmir ar y Gogarth yn tyfu'n rhy fawr. Dywed Ian Jones, pennaeth Ysgol San Siôr, fod y sefyllfa yn gwaethygu gan fod gormod o eifr bellach yn byw yno. Dywedodd Mr Jones ei fod wedi mynd i fwydo cameleon anwes yr ysgol fore Sul a chanfod 30 o eifr ar dir yr ysgol. "Roedden ni newydd blannu coed ffrwythau brodorol, fel coeden afal Enlli, a gwario £160 arnyn nhw," meddai Mr Jones, "ac fe ddaliais y geifr wrthi." Ychwanegodd y pennaeth fod y geifr fel arfer yn gadael llonydd i'r coed, gan ffafrio planhigion meddalach, ond y tro yma roedden nhw wedi bwyta'r coed at y bôn ac nid oedd gobaith iddyn nhw dyfu yn ôl. Cynnydd dramatig Dyma'r eilwaith o fewn pythefnos i'r geifr achosi difrod i eiddo'r ysgol. Cafodd tŷ gwydr wedi ei wneud o boteli plastig wedi eu hailgylchu ei ddifrodi hefyd. Y llynedd roedd gostyngiad yn nifer y geifr newydd a gafodd eu geni i'r ddiadell ar ôl iddynt gael eu chwistrellu â phigiad atal cenhedlu.
'Does bron ddim ar ôl o'r coed ffrwythau a gafodd eu bwyta dros y penwythnos
|
Maen nhw wedi byw yno ers dros 100 mlynedd wedi i rai geifr o haid Frenhinol Windsor ddod i law yr Arglwydd Mostyn tua 1880. Cawsant eu rhyddhau ar y Gogarth 20 mlynedd yn ddiweddarach ac maen nhw wedi crwydro'n wyllt ers hynny, a'u niferoedd wedi cynyddu'n ddramatig. Mae'r parc gwledig ar y penrhyn yn cael ei redeg gan Gyngor Conwy ond nid oes gan neb gyfrifoldeb cyfreithiol dros y geifr. Nid oedd y cyngor am wneud sylw ar y gŵyn ddiweddaraf. Yn y gorffennol, roedd tua 60 o fyn geifr yn cael eu geni bob blwyddyn gan arwain at ofnau o or-frîdio. Ond flwyddyn wedi i 65 o eifr gael pigiad atal cenhedlu, 23 o eifr newydd gafodd eu geni. Rheolaeth Yn y gorffennol mae geifr wedi cael eu symud o'r Gogarth er mwyn lleihau'r boblogaeth oedd yn 220 ychydig flynyddoedd yn ôl. "Rydyn ni wedi anfon llythyr ar y cyngor i ofyn am ragor o arian i brynu mwy o goed, ac rydyn ni'n apelio am arian gan rieni," meddai Mr Jones. Ychwanegodd fod yna lawer o "sentiment" tuag at y geifr, ond fod gormod ohonyn nhw. "Dydw i ddim yn gorddweud wrth ddweud y gallwch weithiau weld 60 ohonyn nhw gyda'i gilydd," meddai Mr Jones. "Does gen i ddim yn erbyn y geifr, ac er bod cynllun i geisio rheoleiddio'r gyfradd geni rydw i'n credu ei bod yn rhy hwyr."
|