British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 8 Mawrth 2011, 16:53 GMT
Canslo streic drenau penwythnos gm rygbi

Trenau yng Nghaerdydd
Mae Trenau Arriva Cymru wedi bod mewn anghydfod ag undeb Aslef

Ni fydd streic drenau y penwythnos hwn wedi trafodaethau rhwng Trenau Arriva Cymru ac undeb Aslef ddydd Mawrth.

Roedd aelodau'r undeb yn bwriadu cerdded allan o'u gwaith am 24 awr ar benwythnos y gêm rygbi ryngwladol, hynny yw dydd Sadwrn a dydd Sul, oherwydd ffrae gyflogau.

Mae gyrwyr trenau Arriva eisoes wedi cynnal tri diwrnod o streicio ac effeithio ar gannoedd o wasanaethau.

Dywedodd llefarydd ar ran Trenau Arriva Cymru: "Mae cynnydd wedi bod yn ystod y trafodaethau ag undeb Aslef fydd yn rhoi'r gorau i weithredu diwydiannol Mawrth 12 ac 13.

"Bydd cyfarfod arall rhwng y ddwy ochr yr wythnos nesaf."

Ychwanegol

Dywedodd y byddai gwasanaethau ychwanegol ar gyfer y gêm rygbi ryngwladol rhwng Cymru ac Iwerddon yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn.

Bydd system giwio yng Ngorsaf Ganolog Caerdydd ar ôl y gêm a Gorsaf Stryd y Frenhines ar gau ar ôl 6.30pm.

Mae Trenau Arriva Cymru wedi dweud bod eu cynnig cyflog yn werth 12% dros ddwy flynedd ac yn dod â chyflog gyrrwr i £39,117 am wythnos waith 35 awr dros gyfnod o bedwar diwrnod.

Ond mae Aslef wedi mynnu bod gyrwyr Cymru yn cael eu talu'n llai na rhai yn Lloegr a bod y cynnig yn cyfateb i £39,000 am wythnos bum niwrnod, 46-47 awr, gan fod y cynnig yn ddibynnol ar ymrwymiad i weithio ar y Sul.



HEFYD
Diwrnod arall heb drenau Arriva
06 Maw 11 |  Newyddion
Streic drenau ar ddiwrnod gm rygbi
04 Maw 11 |  Newyddion
Anghydfod trenau: Dim cytuno
03 Maw 11 |  Newyddion
Trafod rheolwyr cwmni trenau
03 Maw 11 |  Newyddion
Streic drenau: Cyngor i deithwyr
28 Chwef 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific