British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 8 Mawrth 2011, 12:37 GMT
'Llai o werthu tai yng Nghymru'

Gwerthwr tai
58% o aelodau yng Nghymru'n dweud bod prisiau wedi gostwng

Mae arolwg mudiad yn cyfeirio at "ddarlun cymysg" yn y farchnad dai.

Dywedodd Sefydliad y Tirfesurwyr Siartredig fod llai o werthu a phrisiau'n gostwng yng Nghymru.

Yn y DU roedd 27% o aelodau wedi dweud bod llai o werthu ym mis Chwefror a 58% wedi dweud bod prisiau wedi gostwng.

"Mae'r galw am dai wedi sefydlogi yng Nghymru," meddai llefarydd "ond mae'r galw'n isel yn y DU am fod angen blaendal uchel ar fenthycwyr.

"Roedd nifer y tai oedd newydd gael eu gwerthu'n uwch yn Llundain, De Orllewin Lloegr, Sir Efrog, Humberside a'r Alban tra bod y sefyllfa yng ngweddill y DU yn negyddol."

58%

Tra oedd 58% o aelodau yng Nghymru'n dweud bod prisiau wedi gostwng, roedd 26% yn dweud yr un peth yn y DU.

Dywedodd Tony Filice o'r mudiad yng Nghymru a Chyfarwyddwr Kelvin Francis: "Mae mwy o dai ar y farchnad yng Nghymru a'r prisiau'n amrywio.

"Rhaid dweud bod nifer y tai sy'n cael eu gwerthu'n isel ond rydym yn disgwyl y bydd mwy o ddarpar brynwyr yn edrych arnyn nhw.

"Ychydig sy'n prynu tŷ am y tro cynta."




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific