British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 7 Mawrth 2011, 11:12 GMT
Rhywun yn Rhywle yw Cān i Gymru 2011

Steve Balsamo, Tesni Jones ac Ynyr Roberts gyda thlws Cān i Gymru 2011
Enillodd Ynyr Roberts a Steve Balsamo dlws a £7,500 am y gān a berfformiwyd gan Tesni Jones

Rhywun yn Rhywle ydi Cân i Gymru 2011.

Gwaith y cyfansoddwyr Ynyr Roberts a Steve Balsamo oedd yn fuddugol yn y gystadleuaeth nos Sul ac fe wnaethon nhw ennill y teitl a £7,500.

Roedd 150 o ganeuon wedi eu cyflwyno i'r gystadleuaeth - y nifer fwyaf erioed.

Ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid roedd y rownd derfynnol gyda'r wyth a ddaeth i'r brig.

Tesni Jones, gynt o'r grŵp Pheena, sy'n canu'r gân a bydd nawr yn cynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon fis Ebrill.

Yn ail daeth Osian Rhys Roberts a'r gân Cofia am y Cariad ac roedd cân Gai Toms, Clywch, yn drydydd.

'Cyd-weithio'

Ynyr oedd yn gyfrifol am eiriau Rhywun yn Rhywle a Steve wnaeth y gerddoriaeth.

Dywed bod hi'n gân amserol iawn, yn gân am obaith, am gadw ffydd a pheidio rhoi'r gorau i ddilyn breuddwydion.

"Dwi'n ffan mawr o'r gystadleuaeth, mae hi wir yn gyfnod cyffrous bob tro dwi yn cystadlu," meddai Ynyr, sy'n gyfarwydd iawn â pherfformio fel aelod o'r band Brigyn.

Dyma'r trydydd tro iddo gystadlu.

"Dwi'n hoff iawn o gyfansoddi a chyd-weithio gyda cherddorion eraill, ac mae Cân i Gymru yn ffordd wych o 'neud hynny," ychwanegodd.

Dywedodd un o'r panel beirniaid, Clive Harpwood, bod unrhyw beth sy'n codi ysbryd fel gwnaeth y gân yma yn mynd i fod yn ffefryn gyda'r gynulleidfa.

"Mae hi'n anthem o gân," ychwanegodd.

"Doedden ni ddim yn disgwyl canlyniad fel yma," ychwanegodd Ynyr.

"Roedden ni wedi cael ymateb ffafriol iawn gan y panel beirniaid a wedyn cael pwl o nerfusrwydd wrth i'r canlyniad gael ei gyhoeddi.

"Teimlad anhygoel. Gwybod bod lot o bobl wedi cefnogi'r gân a 'da ni'n ddiolchgar iawn iawn iddyn nhw i gyd."

"Roedd hi'n gystadleuaeth galed eleni a dwi'n siŵr mai'r un fydd yr hanes yn Iwerddon, ond 'da ni am fynd yna, gwneud ein gorau a Chymru amdani," ychwanegodd.

Fe fydd yr Ŵyl Ban Geltaidd yn cael ei chynnal eleni yn Kerry.

Dywedodd Steve Balsamo ei fod am ddefnyddio peth o'r arian i fynd â'i ferch ar wyliau i Baris tra dywedodd Ynyr Roberts y bydd yn ddefnyddiol iawn wrth iddo fo a'i wraig baratoi at enedigaeth eu plentyn.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific