British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 7 Mawrth 2011, 09:12 GMT
Ysgol Penbaras yn cyrraedd y brig

emynau
Mae 12 o ysgolion o bob cwr o'r DU yn cymryd rhan

Cafodd ysgol o Sir Ddinbych lwyddiant yng nghystadleuaeth Côr y Flwyddyn.

Rhaglen Songs of Praise y BBC wnaeth drefnu'r gystadleuaeth.

Llwyddodd Côr Plant Ysgol Penbaras yn Rhuthun i gyrraedd y brig.

Roedd hanner dwsin o gorau wedi cyrraedd y rownd derfynol ac yn ffurfio côr ysgolion y gyfres.

Derbyniodd yr ysgol weithdy corawl gyda'r cyfansoddwr a'r arweinydd enwog Douglas Coombes, a ymwelodd â'r ysgol ym mis Ionawr.

Fe wnaeth y côr ganu fersiwn Gymreig o'r emyn 'Think of a World without any Flowers' yn y gystadleuaeth.

'Gwaith caled'

Dywedodd Mrs Elen Meirion, sydd wedi bod yn dysgu'r côr: "Mae'n rhaid i mi ganmol y plant am eu holl waith caled wrth ddysgu'r caneuon a pharatoi ar gyfer y gystadleuaeth.

"Maen nhw wedi bod yn ymarfer yn ddiflino ac mae eu dyfalbarhad wedi bod yn wych."

Dyma nawfed flwyddyn y gystadleuaeth.

Cafodd y gystadleuaeth ei recordio ar Fawrth 5 a 6 yn Neuadd Ddinesig Sheffield.

Mae 12 o ysgolion o bob cwr o'r DU yn cymryd rhan, 6 yn y gystadleuaeth iau a 6 yn y gystadleuaeth hŷn.

Y beirniad oedd y cyn ganwr pop ac athro lleisiol i'r sêr David Grant, y tenor Russell Watson a'r arweinydd a'r cerddor Suzi Digby.

Fe fydd Aled Jones yn cyflwyno'r tair rhaglen (2 gynderfynol a'r rhaglen derfynol), a fydd ar yr awyr ar BBC1 ar Fawrth 27, Ebrill 3 ac Ebrill 10.



HEFYD
Dathlu mewn ysgol ar l cyrraedd rhestr fer
20 Rhag 10 |  Newyddion
Lansio wyth gm Gymraeg i blant
22 Maw 06 |  Newyddion
Dwyieithrwydd: Gwers i'r Eidal?
06 Medi 07 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific