Mae ynni adnewyddol yn cael ei weld fel un ffordd o leihau allyriadau carbon
|
Mae'r Gweinidog Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cymru wedi cyhoeddi Cynllun Grant i Gefnogi Byw'n Gynaliadwy. Bydd y grant hwn yn rhoi cyllid a chyngor i brosiectau er mwyn helpu pobl i fod yn fwy cynaliadwy a defnyddio llai o garbon. Mae grantiau gwerth hyd at £15,000 ar gael i fudiadau o bob sector, a gallant ariannu hyd at 50% o gostau prosiectau. Nod y cynllun yw ysgogi newidiadau hirdymor mewn ffyrdd o fyw - newidiadau a fydd yn helpu i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru ac yn mynd i'r afael ag effeithiau'r newid yn yr hinsawdd. 'Canlyniadau gweladwy' Wrth siarad yn y digwyddiad i lansio'r cynllun, a gynhaliwyd yng Nghanolfan Gelfyddydau'r Chapter yng Nghaerdydd, dywedodd Jane Davidson mai'r gobaith yw y bydd yr arian yn arwain at ganlyniadau gweladwy.
 |
Er bod Cymru'n wlad fach, mae Llywodraeth y Cynulliad yn benderfynol o ddangos y gallwn ni fod ar flaen y gad yn yr ymgyrch i warchod a diogelu ein ffordd o fyw a'n gwlad brydferth
|
"Bydd rhwng 50% ac 80% o'r camau rydyn ni'n eu cymryd i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd yn cael eu cymryd ar lefel leol. "Rydym yn cynnig cyngor a chymorth arbenigol i gyflenwi a gwerthuso prosiectau trwy ein gwasanaeth Cefnogi Byw'n Gynaliadwy. "Bydd y cyfuniad hwn o gyllid grant ac arbenigedd yn annog gweithredu'n lleol ledled Cymru. "Bydd hefyd yn cynnal ein henw da yma a thramor fel gwlad lle mae pethau cyffrous yn cael eu gwneud i ymdrin â'r newid yn yr hinsawdd. 'Newid arferion' "Er bod Cymru'n wlad fach, mae Llywodraeth y Cynulliad yn benderfynol o ddangos y gallwn ni fod ar flaen y gad yn yr ymgyrch i warchod a diogelu ein ffordd o fyw a'n gwlad brydferth. "Bydd y cynllun grant hwn yn grymuso pobl i gynllunio a datblygu dulliau o fynd ati i ymdrin â'r newid yn yr hinsawdd. "Mae hynny'n cael effaith wirioneddol a mesuradwy ar arferion pobl. "Yn ogystal â lleihau allyriadau, gall newid arferion fod yn ffactor hollbwysig yn nifer y bobl sy'n defnyddio mentrau cynaliadwy eraill, yn ogystal â pherfformiad y mentrau hynny a sut maen nhw'n cael eu defnyddio." Mae'r cynllun yn cael ei redeg gan Amgylchedd Cymru ar ran Llywodraeth y Cynulliad. Mae'n cyflogi swyddog datblygu sydd wedi'i leoli gyda Cynnal Cymru i hyrwyddo a datblygu'r cynllun.
|