British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 6 Mawrth 2011, 10:28 GMT
Diwrnod arall heb drenau Arriva

Trenau yng Nghaerdydd
Mae Trenau Arriva Cymru yng nghanol anghydfod gydag undebau Aslef a'r RMT

Mae teithwyr ar drenau yn wynebu mwy o drafferthion wedi i gwmni Trenau Arriva Cymru ddiddymu holl wasanaethau dydd Sul oherwydd anghydfod gyda'u gyrwyr.

Fel arfer ar ddydd Sul, mae'r trenau'n cael eu gyrru gan bobl sy'n gweithio goramser yn wirfoddol, ond mae undeb Aslef wedi gwahardd hynny fel rhan o anghydfod dros gyflog ac amodau gwaith.

Mae Trenau Arriva Cymru yn gweithredu gwasanaethau bysiau mewn rhai lleoedd ac yn ymddiheuro am yr anghyfleustra i deithwyr.

Yn ychwanegol i'r gwaharddiad ar weithio goramser, bydd streic 24 awr yn digwydd ar Fawrth 12 - diwrnod y gêm rygbi rhwng Cymru ac Iwerddon yng Nghaerdydd - wedi i drafodaethau rhwng y ddwy ochr ddod i ben heb gytundeb.

Siomedig

Wrth siarad ar ddiwedd y trafodaethau hynny, dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol Aslef, Keith Norman, ei fod yn siomedig iawn nad oedd y cwmni wedi rhoi cynnig gwell i'r gweithwyr.

Dywedodd: "O ystyried amharodrwydd y cwmni i newid eu safbwynt a bod y cynnig blaenorol yn annerbyniol, does dim dewis gennym ond i weithredu ymhellach."

Dywedodd Trenau Arriva Cymru bod eu cynnig cyflog yn werth 12% dros ddwy flynedd, ac yn dod a chyflog gyrrwr i £39,117 am wythnos waith 35 awr, bedwar diwrnod.

Ond mae Aslef yn mynnu bod gyrwyr Cymru yn cael eu talu llai na rhai yn Lloegr, a bod cynnig y cwmni yn cyfateb i £39,000 am wythnos waith bum niwrnod, 46-47 awr, gan fod y cynnig yn ddibynnol ar ymrwymiad i weithio ar ddyddiau Sul.



HEFYD
Streic drenau ar ddiwrnod gm rygbi
04 Maw 11 |  Newyddion
Anghydfod trenau: Dim cytuno
03 Maw 11 |  Newyddion
Trafod rheolwyr cwmni trenau
03 Maw 11 |  Newyddion
Streic drenau: Cyngor i deithwyr
28 Chwef 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific