British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 4 Mawrth 2011, 16:00 GMT
Streic drenau ar ddiwrnod gêm rygbi

Trên Arriva Cymru
Mae gyrwyr trenau Arriva eisoes wedi streicio am ddeuddydd

Mae gyrwyr Trenau Arriva Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw'n mynd ar streic ar ddiwrnod y gêm rygbi nesaf rhwng Cymru ac Iwerddon.

Dywedodd undeb Aslef y byddai ei aelodau'n cerdded allan o'u gwaith am 24 awr ddydd Sadwrn, Mawrth 12, oherwydd anghydfod cyflogau.

Methodd trafodaethau rhwng penaethiaid Arriva Cymru a swyddogion undeb Aslef ddydd Iau.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol yr undeb, Keith Norman, ei fod yn siomedig am nad oedd y cwmni wedi gwneud cynnig tâl gwell i'w staff.

Ond dywedodd rheolwyr Arriva fod y cynnig, 12% dros ddwy flynedd, yn "hael iawn".

"O ystyried amharodrwydd y cwmni i newid eu safbwynt, a pha mor annerbyniol yw eu cynnig blaenorol, ychydig ddewis sydd gennym ond cymryd camau pellach," meddai Mr Norman.

Mae'r gyrwyr eisoes wedi bod ar streic ddeuddydd ac wedi gwahardd gweithio goramser, gan effeithio ar wasanaethau dydd Sul.

'Ddim wedi llwyddo'

Yn gynharach yn yr wythnos fe gyhoeddodd yr undeb fod ei aelodau yn bwriadu gweithredu'n ddiwydiannol ddydd Sul, Mawrth 6.

Mewn datganiad, dywedodd Arriva ddydd Iau: "Yn anffodus, nid ydym wedi llwyddo i symud ymlaen wedi cyfarfod ddydd Iau gydag undeb Aslef ynglŷn â thâl gyrwyr.

"Bydd y gweithredu diwydiannol ar y gweill ar gyfer dydd Sul felly'n digwydd ac ni fydd dim un o wasanaethau Trenau Arriva Cymru y diwrnod hwnnw.

"Yn lle hynny bydd gwasanaeth bws cyfyngedig yn cael ei ddarparu yn nifer o brif leoliadau'r rhwydwaith a'r cyntaf i'r felin fydd hi o ran seddau i deithwyr.

Bydd cwmnïau trenau eraill, gan gynnwys Virgin, First Great Western, Northern a Cross Country, yn parhau i redeg fel arfer.

Am y manylion diweddara' i deithwyr mae modd edrych ar wefan Trenau Arriva Cymru neu gysylltu gyda'r llinell wybodaeth ar 08457 48 49 50.



HEFYD
Anghydfod trenau: Dim cytuno
03 Maw 11 |  Newyddion
Trafod â rheolwyr cwmni trenau
03 Maw 11 |  Newyddion
Streic drenau arall ddydd Sul
01 Maw 11 |  Newyddion
Streic: Cyfarfod yr wythnos hon
28 Chwef 11 |  Newyddion
Streic gyrwyr trên yn parhau
28 Chwef 11 |  Newyddion
Streic gan lanhawyr ar drenau
25 Chwef 11 |  Newyddion
Cyhoeddi streic drenau
17 Chwef 11 |  Newyddion
Canslo streic drenau
01 Chwef 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific