British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 4 Mawrth 2011, 18:57 GMT
Cymru'n dweud Ie

Carwyn Jones ac Ieuan Wyn Jones
Digwyddodd y refferendwm yn sgl cytundeb Cymru'n Un clymblaid Llafur a Phlaid Cymru

Mae Cymru wedi pleidleisio o blaid cynyddu pwerau i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Roedd y rhai o blaid yn dathlu yn Y Senedd ym Mae Caerdydd a dim ond un sir, Mynwy am 2.25pm, bleidleisiodd yn erbyn.

Blaenau Gwent oedd y sir gyntaf i gyhoeddi toc cyn 12pm ac roedd y canlyniad olaf yn y brifddinas am 3.20pm.

Cyhoeddodd y Comisiwn Etholiadol mai 35.2% o etholwyr Cymru bleidleisiodd.

Roedd pob canlyniad yn cael eu cyhoeddi ym mhob awdurdod cyn i'r Comisiynydd Etholiadol wneud y cyhoeddiad cenedlaethol yn Y Senedd ym Mae Caerdydd.

Ar ôl yr holl ganlyniadau roedd 517,132 o blaid a 297,380 yn erbyn.

'Yn hyderus'

Yn y Senedd ym Mae Caerdydd dywedodd Cadeirydd Ie Dros Gymru, Roger Lewis, fod "Cymru yn un, bod Cymru yn hapus ac yn hyderus".

"Mae Cymru wedi lleisio ei barn ac wedi dweud Ie.

"O hyn ymlaen fe fydd deddfau sy'n effeithio ar Gymru yn unig yn cael eu gwneud yng Nghymru.

"Heddiw rydyn ni wedi dod o hyd i'n llais," ychwanegodd.

"Gyda'n gilydd rhaid i ni chwarae'n rhan, yn hyderus, i wneud Cymru yn wlad well."

Dywedodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, fod Cymru'n "bartneriaid" â'r Alban a Gogledd Iwerddon.

'Yn hanesyddol'

"Mae hi'n ddiwrnod hanesyddol yng Nghymru, o'r arfordir i'r ffin ac o'r gogledd i'r de mae Cymru yn unedig bellach ... mae hi'n bleidlais o hyder.

"Fe gafodd hen wlad ei pharch yn ôl heddiw."

Mae Ieuan Wyn Jones, Dirprwy Brif Weinidog y Cynulliad, wedi dweud: "Mae heddiw'n ddiwrnod balch i mi ac i'm plaid.

"Dwi'n falch ein bod ni fel Plaid Cymru wedi gofyn am y refferendwm fel rhan o Gytundeb Cymru'n Un," meddai.

"Mae pwerau deddfu yno i bwrpas, i wella bywydau pobl, i greu cymdeithas sy'n decach, i hyrwyddo'r gorau ym mywyd y genedl ...

"Yr her i ni ac i bob plaid yw codi disgwyliadau pobl Cymru ac i gwrdd â'u disgwyliadau."

'Trobwynt'

Bore Gwener roedd Gwir Gymru, oedd yn ymgyrchu erbyn cynyddu'r pwerau, yn cydnabod ei bod yn "besimistaidd" ac y byddai ymgyrchwyr Ie yn fuddugol.

Dywedodd Rachel Banner ar ran Gwir Gymru wedi'r canlyniad fod y canlyniad yn "drobwynt yn hanes ein cenedl".

Ond gofynnodd: "A ydi'r canlyniad yn dangos caniatâd pobl Cymru i'r Cynulliad ddeddfu?

"Ac all y Cynulliad sicrhau digon o graffu o ansawdd uchel cyn llunio deddfau?"

Yn y cyfamser, dywedodd Kirsty Williams, Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: "Dwi'n credu na fyddai'r mwya hyderus yn ein plith wedi gallu rhagweld y fath ganlyniad.

"Dwi'n falch iawn o weld bod etholwyr yn yr etholaethau wrthododd sefydlu'r Cynulliad yn 1997 wedi pleidleisio o blaid heddiw.

"Maen nhw wedi deall mai'r hyn y maen nhw eisiau yw sefydliad sy'n gwneud pethau'n gynt, yn fwy effeithiol ac yn rhatach ..."

'Eisiau mwy o bŵer'

Dywedodd arweinydd ei phlaid yn y DU, Nick Clegg, Dirprwy Brif Weinidog llywodraeth San Steffan, mai proses sy'n newid yw datganoli, gan awgrymu fod newidiadau pellach i ddod.

"Y cam nesaf yw inni sefydlu proses, yn debyg i'r broses a ddigwyddodd yn yr Alban, sy'n cael ei alw'n Gomisiwn Calman, i edrych ar y mater o bwerau cyllido a threthu ac yn y blaen i Gymru," meddai Mr Clegg a oedd yng Nghaerdydd ar drothwy cynhadledd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.

"Oherwydd yn amlwg roedd hwn yn arwydd clir fod pobl Cymru eisiau mwy o bŵer, mwy o awdurdod, ac rwy'n credu y dylen ni nawr chwarae ein rhan, yn llywodraeth San Steffan, i ateb yr alwad honno."

Dywedodd Nick Bourne, Arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, fod Cymru wedi siarad ag un llais.

"Mae angen diolch i Roger Lewis am ei arweinyddiaeth ... mae hwn yn gyfle newydd i Gymru gyflawni ar ran ei phobl.

"Erbyn hyn, mae gennym ni'r adnoddau i wneud y gwaith a rhaid gwneud hynny mewn partneriaeth gyda San Steffan fel rhan o'r Deyrnas Unedig."

Ond mae David Davies, Aelod Seneddol Ceidwadol Mynwy - yr unig sir a bleidleisiodd Na yn y refferendwm - wedi dweud yr hoffai weld system seneddol ffederal ym Mhrydain.

Sefydlu llywodraeth unigol i Gymru, Lloegr a'r Alban - gyda Senedd Ffederal i ddelio â materion rhyngwladol ac amddiffyn ayb - fyddai'r unig ffordd, meddai, o osgoi bod mwy o bwerau yn dod i'r Cynulliad ac yn arwain yn y pendraw at annibyniaeth.

Roedd gan 2.2 miliwn o bobl yng Nghymru gyfle i bleidleisio a phenderfynu a ddylai'r Cynulliad Cenedlaethol gael pŵer uniongyrchol i lunio deddfau yn yr 20 maes sydd eisoes wedi eu datganoli.



REFFERENDWM
DIWRNOD Y CYFRI

NEWYDDION YR YMGYRCH
CEFNDIR
CYNULLIAD Y BOBOL
CF99
GWYLIWCH
LANSIO


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific