British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 4 Mawrth 2011, 11:31 GMT
Gwir Gymru'n 'besimistaidd'

Cyfri pleidleisiau
Fe fydd y cyfri yn dechrau am 9am mewn canolfannau ar draws Cymru

Wedi i bleidleisiau'r refferendwm ar bwerau'r Cynulliad ddechrau cael eu cyfri mae Gwir Gymru wedi cydnabod ei bod yn besimistaidd ac y bydd ymgyrchwyr Ie yn fuddugol.

Roedd gan 2.2 miliwn o bobl yng Nghymru hawl i bleidleisio a phenderfynu a ddylai'r Cynulliad gael pŵer uniongyrchol i lunio deddfau yn yr 20 maes sydd eisoes wedi eu datganoli.

Am y manylion llawn o bob rhan o Gymru cliciwch yma .

Dywedodd Rachel Banner o Gwir Gymru: "Dyw hi ddim yn ymddangos ei bod wedi mynd o'n plaid ni," meddai.

A dywedodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, ei fod yn hyderus y byddai pleidlais Ie â "mwyafrif clir".

"Fe hoffwn i weld pleidlais Ie gyda mwyafrif sylweddol."

Adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd yw canolbwynt y cyfri'.

Diwrnod y cyfri cam wrth gam

Mae disgwyl y canlyniadau cyntaf yn gynnar brynhawn Gwener gyda'r canlyniad cenedlaethol i'w gyhoeddi yn ddiweddarach.

Mae'r cyfri' yn digwydd mewn 22 o ganolfannau ar hyd a lled Cymru.

Ond fe fydd y rheiny'n cael eu cydlynu'n ganolog yn Y Senedd ym Mae Caerdydd lle bydd y Comisiynydd Etholiadol yn cyhoeddi'r canlyniad terfynol.

Dywedodd y sylwebydd gwleidyddol Gareth Hughes, nad oedd yn credu bod faint y rhai sydd wedi pleidleisio yn mynd i wneud dim gwahaniaeth i hygrededd y bleidlais.

"Mae'r refferendwm yma yn un reit dechnegol - ddim yn un ag egwyddorion mawr ond fe fyddai'n well tasa mwy o bobl yn cefnogi rhywbeth.

"Dydi pobl ddim yn mynd allan i bleidleisio os nad oes 'na rywbeth mawr i'w newid."

Mae gan BBC Cymru wasanaeth arbennig yn ystod y dydd gyda'r canlyniadau yn cael eu cyhoeddi ar y wefan newyddion, teledu a radio.

  • ar wefan Newyddion Ar-lein drwy'r dydd;
  • rhaglen gan BBC Cymru ar S4C o 10.30am ymlaen - rhaglen fyw o'r Senedd gyda Dewi Llwyd, Vaughan Roderick a Bethan Rhys Roberts;
  • ar BBC Radio Cymru o 11am ymlaen - rhaglen fyw gyda Dylan Jones o Fae Caerdydd.


REFFERENDWM
DIWRNOD Y CYFRI

NEWYDDION YR YMGYRCH
CEFNDIR
CYNULLIAD Y BOBOL
CF99
GWYLIWCH
LANSIO


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific