British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 4 Mawrth 2011, 09:53 GMT
Ffilm Gymreig yn y sinemau

Duffy a Nia Roberts
Duffy a Nia Roberts yn y premier yn Llundain nos Fercher

Bron i 150 mlynedd ôl fe deithiodd degau o Gymry i Batagonia ar drywydd bywyd newydd.

Roedd yr hanes hwnnw yn ysbrydoliaeth i'r cyfarwyddwr ffilm Marc Evans.

Roedd yn chwilio am y berthynas rhwng y Cymry a Chymry'r Wladfa.

Yng Nghaerdydd nos Iau cafodd premier ei ffilm, Patagonia, ei chynnal.

Mae'r actorion Matthew Rhys, Nia Roberts a Matthew Gravelle yn serennu ynddi yn ogystal â'r gantores Duffy.

Dyma ei gwaith cyntaf fel actores ac mae hi hefyd yn canu ar drac sain y ffilm.

Dwy iaith

"Roedd o'n brofiad ardderchog a dweud y gwir," meddai.

"Nes i grio wrth adael Betws y Coed ar ôl pythefnos o ffilmio.

Golygfa o ffilm Patagonia
Mae hi'n ffilm brydferth, ac yn drawiadol yn weledol o ran cefn gwlad Cymru a Phatagonia
Marc Evans

"Dwi wedi cael 'chydig o flas ar actio gan ei fod yn brofiad mor llwyddiannus yn bersonol i mi."

Mae'r ffilm yn Gymraeg a Sbaeneg yn bennaf.

Cyn y premier yng Nghaerdydd cafodd y ffilm bremier yn Llundain nos Fercher.

Roedd Evans, Roberts a Duffy yn Llundain ac yng Nghaerdydd ar gyfer y dangosiadau.

Yn ôl y cyfarwyddwr mae 'na ddwy stori yma, stori'r Cymry yn Y Wladfa a'r Sbaenwyr yn ymweld â Chymru.

'Dihangfa'

"Yn gyffredinol, mae'r ffilm yn ddwy daith, un drwy'r Ariannin yn yr hydref a'r llall drwy Gymru yn y gwanwyn," meddai.

"Mae gen i deimladau arbennig tuag at y ffilm yma.

"Mae hi'n ffilm brydferth, ac yn drawiadol yn weledol o ran cefn gwlad Cymru a Phatagonia.

"Mae'n ddihangfa arbennig ar brynhawn Sul gwlyb."

Cafodd y ffilm ei chynhyrchu gan gwmni Boomerang gyda chefnogaeth gan S4C, Asiantaeth Ffilm Cymru a buddsoddwyr preifat.

Fe fydd i'w gweld mewn sinemâu yng Nghaerdydd, Casnewydd, Abertawe a Llanelli o ddydd Gwener ymlaen yn ogystal â mewn sinemâu llai a chanolfannau celfyddydol yn Llanfair-ym-Muallt, Caernarfon, Aberteifi, Yr Wyddgrug, Aberdaugleddau a Phwllheli yn ystod mis Ebrill a mis Mai.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific