Fe fydd cyflog sylfaenol ACau yn £53,852 y flwyddyn tan 2015
|
Ni ddylai rhewi cyflogau Aelodau Cynulliad am bedair blynedd fod yn rhwystr i'r bobl fwyaf talentog ymgeisio am sedd yn y Cynulliad Cenedlaethol, yn ôl adroddiad sy'n cael ei gyhoeddi ddydd Mawrth. Mae'r adroddiad yn nodi cyflog sylfaenol o dros £53,000 i Aelodau'r Cynulliad dros y pedair blynedd nesaf sy'n golygu y byddan nhw ymhlith yr 1.7% o bobl sy'n hawlio'r cyflog uchaf yng Nghymru. Fe wnaeth cyflogau aelodau gynyddu 56% rhwng 1999 a 2010. Mae ACau wedi cytuno y dylai eu cyflog fod yn sefydlog ar £53,852 tan etholiad 2015. Mae'r rhai sydd mewn swyddi - o fewn y llywodraeth neu yn gadeiryddion pwyllgorau - yn derbyn mwy, gyda'r Prif Weinidog yn gymwys i dderbyn cyfanswm o £134,722. Taliadau llety Yr adroddiad yma yw'r cyntaf gan Fwrdd Taliadau Annibynnol y Cynulliad Cenedlaethol sef ymateb y cynulliad i sgandal taliadau Aelodau Seneddol. Y bwrdd sy'n gosod cyflogau a thaliadau ym Mae Caerdydd.
Yn ôl casgliadau'r adroddiad roedd cyflog sylfaenol AC ymhlith y 1.7% uchaf yng Nghymru ac ymhlith y 4.8% uchaf o ran rheolwyr a phrif swyddogion. Mae'r adroddiad yn cadarnhau lleihad yn nifer yr ACau a fydd yn gallu hawlio taliadau am lety yng Nghaerdydd o 51 aelod i 25 aelod. Dim ond rhent hyd at £700 y mis y bydd aelodau yn gallu ei hawlio, nid morgais. Fe fydd cyllideb staff i'r ACau yn codi o £80,000 i £89,000 ond fe fydd y broses benodi yn newid. Daw'r newidiadau i rym ar ddechrau pedwerydd tymor y Cynulliad wedi'r etholiad ar Fai 5. O ddechrau'r tymor hwnnw fe fydd yn rhaid i bob swydd wag gael ei hysbysebu yn allanol ar wefan y Cynulliad. Aelodau teulu Mae'r adroddiad yn datgelu amrywiaeth yn y nifer o wyliau blynyddol mae staff cynorthwyol yn gymwys i'w gael - rhai yn derbyn 20 diwrnod y flwyddyn tra bod eraill yn derbyn 35. O dan y rheolau newydd fe fydd ACau yn dal i gael cyflogi perthnasau ond fe fydd eu rhan yn y broses recriwtio yn llai. Aelodau o staff adnoddau dynol y cynulliad fydd yn cynnal y cyfweliadau olaf a'r asesiadau. Cyfanswm cyflogau, lwfansau a chostau staff ACau y flwyddyn nesaf fydd £12.7 miliwn, gostyngiad o 7.1%. Dywedodd cadeirydd y Bwrdd, George Reid, ei bod hi'n allweddol bod ACau yn cael y gefnogaeth angenrheidiol i wneud eu gwaith wedi canlyniad y refferendwm yn gynharach yn y mis. Cafodd penderfyniadau cyntaf y bwrdd ar gyflogau eu gwneud "o dan amgylchiadau economaidd anodd", meddai. "Ar yr un pryd, fe wnaethon ni benderfyniadau i gynyddu grym y Cynulliad. "Mae'r bwrdd felly eisiau adeiladu ar y penderfyniad ac adlewyrchu y gallai rôl yr ACau newid yn y Cynulliad nesaf. "Nawr bod pobl Cymru wedi pleidleisio o blaid cynyddu pwerau yn y Cynulliad, rydym yn hyderus bod y system ariannol yma yn cynnig cefnogaeth ddigonol i'r aelodau yn y Cynulliad nesaf."
|