Bydd trydan o'r paneli solar yn cael ei fwydo i mewn i'r Grid Cenedlaethol
|
Mae cynlluniau i ddatblygu fferm solar ar gyfer hyd at 10,000 o baneli ar ddau safle yn Sir Gaerfyrddin wedi cael eu cymeradwyo. Fe allai'r datblygiad ar gwrs rasio ceffylau Ffos Las ger Trimsaran a safle hen waith glo Cynheidre ger Five Roads gyflenwi trydan i hyd at 1,000 o dai. Rhoddodd cynghorwyr ganiatâd cynllunio i'r fenter ddydd Iau. Wedi eu creu o resi ar resi o baneli solar unigol, bydd y trydan sy'n cael ei gynhyrchu yn cael ei fwydo i'r Grid Cenedlaethol. Fis Ionawr, daeth Sir Benfro'r cyngor cyntaf yng Nghymru i gymeradwyo fferm solar pan roddwyd caniatâd cynllunio ar dir plasty Rhos-y-Gilwen ger Aberteifi Dywedodd Entec, sy'n gweithredu fel asiant ar ran y datblygwyr, fod y ddau safle yn Sir Gaerfyrddin wedi eu dewis am eu bod mewn lleoliad da ac wedi eu cuddio'n ddigonol oddi wrth ardaloedd cyfagos. Daw'r cais dros 50 mlynedd ers i'r gwaith glo agor ar y safle. Pan agorodd Glofa Cynheidre yng Ngwm Gwendraeth yn 1954 roedd yn cyflogi cannoedd. Yn ei anterth, roedd y safle'n cynhyrchu dros 470,000 tunnell o lo ac yn cyflogi bron i 1,500 o weithwyr. Caeodd y gwaith yn 1989. Cafodd pobl leol gyfle i weld y cynlluniau ar gyfer y fferm solar fis Ionawr pan gynhaliwyd arddangosfa yn Neuadd y Tymbl.
|