British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 4 Mawrth 2011, 07:01 GMT
Gŵyl Banc ar Ŵyl Dewi?

Cenhinen Bedr

Gallai'r Cynulliad gael y pŵer i greu gŵyl banc ar Ddydd Gŵyl Dewi oherwydd cynigion a gyhoeddwyd ddydd Gwener.

Mae Llywodraeth San Steffan yn dweud y bydd yn ymgynghori ag Aelodau Cynulliad am y posibilrwydd o symud gŵyl banc gyntaf mis Mai i Fawrth 1.

Rhan o strategaeth dwristiaeth Adran Ddiwylliant San Steffan yw dod o hyd i ffyrdd o hybu twristiaeth ym Mhrydain yn ogystal â denu mwy o dwristiaid o dramor.

Un awgrym yw symud Gŵyl Banc Mai 1 i fod ar Ddydd Gŵyl Dewi yng Nghymru ac ar Ddiwrnod San Siôr yn Lloegr.

Mae'r adran wedi dweud y bydd hyn yn ymestyn tymor y gwyliau ac yn creu cyfleoedd newydd o ran dathliadau Prydeinig.

Cynnig arall

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad: "Rydym ni'n cefnogi troi Gŵyl Dewi yn ŵyl banc fel sy'n cael ei ddatgan yng nghytundeb Cymru'n Un."

Cynnig arall yr adran ddiwylliant yw symud gŵyl y banc i gyfnod hwyrach yn y flwyddyn i gyd-fynd â gwyliau hanner tymor yr hydref a chreu Diwrnod Prydain neu Ddiwrnod Trafalgar.

Mae'r adran hefyd wedi dweud y byddai'n "trafod â phob sector diwydiannol yn ogystal â'r sector gwirfoddol er mwyn pwyso a mesur y gost ac oblygiadau ad-drefnu ..."

Yn San Steffan yr wythnos hon dywedodd David Jones, Gweinidog yn Swyddfa Cymru, y byddai gŵyl banc ar Ddydd Gŵyl Dewi yn costio £138m.

Dywedodd hefyd mai mater i Lywodraeth San Steffan fyddai penderfyniad o'r fath nid y Cynulliad.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific