British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 3 Mawrth 2011, 17:09 GMT
Trafodaethau rhwng undeb a chwmni trenau yn methu

TrÍn Arriva Cymru
Mae gyrwyr trenau Arriva eisoes wedi streicio am ddeuddydd

Bydd streic drenau arall ddydd Sul am nad yw Trenau Arriva Cymru a'r undeb wedi setlo'r anghydfod.

Roedd penaethiaid Trenau Arriva Cymru yn trafod yr anghdfod cyflogau â swyddogion undeb Aslef yng Nghaerdydd.

Ac roedd deuddydd o weithredu diwydiannol ddechrau'r wythnos.

Eisoes mae'r undeb wedi cyhuddo'r cwmni o roi llai o gyflog i yrwyr yng Nghymru na gyrwyr yn Lloegr.

Ond dywedodd rheolwyr Arriva fod y cynnig, 12% dros ddwy flynedd, yn "hael iawn".

Yn gynharach yn yr wythnos fe gyhoeddodd Aslef fod ei aelodau yn bwriadu gweithredu'n ddiwydiannol ar Fawrth 6.

'Methu symud ymlaen'

Gwrthododd aelodau'r undeb weithio oriau ychwanegol ddydd Sul Chwefror 27 a chafodd cannoedd o wasanaethau eu canslo.

Parhaodd y streic ddydd Llun Chwefror 28.

Mewn datganiad, dywedodd Arriva: "Yn anffodus, nid ydym wedi llwyddo i symud ymlaen wedi cyfarfod ddydd Iau gydag undeb Aslef ynglŷn â thâl gyrwyr.

"Bydd y gweithredu diwydiannol sydd ar y gweill ar gyfer dydd Sul felly yn digwydd ac ni fydd dim un o wasanaethau Trenau Arriva Cymru y diwrnod hwnnw.

"Yn hytrach bydd gwasanaeth bws cyfyngedig yn cael ei ddarparu yn nifer o brif leoliadau'r rhwydwaith a'r cyntaf i'r felin fydd hi o ran seddau i deithwyr.

Bydd cwmnïau trenau eraill, gan gynnwys Virgin, First Great Western, Northern a Cross Country, yn parhau i redeg fel arfer.

Am y manylion diweddara' i deithwyr mae modd edrych ar wefan Trenau Arriva Cymru neu gysylltu gyda'r llinell wybodaeth ar 08457 48 49 50.



HEFYD
Trafod ‚ rheolwyr cwmni trenau
03 Maw 11 |  Newyddion
Streic drenau arall ddydd Sul
01 Maw 11 |  Newyddion
Streic: Cyfarfod yr wythnos hon
28 Chwef 11 |  Newyddion
Streic gyrwyr trÍn yn parhau
28 Chwef 11 |  Newyddion
Streic gan lanhawyr ar drenau
25 Chwef 11 |  Newyddion
Cyhoeddi streic drenau
17 Chwef 11 |  Newyddion
Canslo streic drenau
01 Chwef 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific