Cyhuddwyd y cwmni o fod yn ddiog wrth gyfieithu arwyddion i'r Gymraeg
|
Fe gafodd trefnwyr ras syndod wrth geisio prynu arwyddion ar gyfer y digwyddiad. Roedd trefnwyr Triathlon Pwllheli yn chwilio am arwyddion i'w gosod ar hyd llwybr y ras yn rhybuddio'r cyhoedd am unrhyw beryglon. Daeth un o'r trefnwyr o hyd i wefan oedd yn cynnig arwyddion o'r fath ond wrth eu darllen, doedden nhw ddim yn gwneud synnwyr. Mae'r cwmni dan sylw - RunningIMP - wedi cyfadde' eu bod ar fai ac wedi ymddiheuro am y camgymeriad. Ac maen nhw hefyd wedi cynnig arwyddion rhad ac am ddim i'r trefnwyr pan fydd y cyfieithiadau cywir ar gael. 'Diog a gwarthus' Dywedodd David Lloyd Williams, un o drefnwyr y ras: "Roeddwn i'n chwilio am arwyddion o safon ac mi ddes i ar draws gwefan y cwmni. "Ond roedd y cyfieithiadau'n ddiawledig. Roedd y cyfan yn ddiog ac yn warthus, a deud y gwir. "Yn amlwg, doedd y cwmni ddim wedi cysylltu gyda siaradwr Cymraeg i'w cyfieithu'n iawn ac mae'n ymddangos eu bod wedi mynd i Google Translate neu rywbeth tebyg i wneud y gwaith." Bydd y ras nofio, beicio a rhedeg ar Fawrth 27, gan gychwyn gyda ras nofio ym mhwll nofio Canolfan Hamdden Dwyfor ym Mhwllheli. Bydd y cystadleuwyr wedyn yn mynd ar gefn beic oddi yno i'r Ffor a Chwilog ac yn ôl cyn ras redeg ar hyd prom Pwllheli i'r harbwr ac yn ôl. Mae angen arwyddion rhybuddio mewn digwyddiad o'r fath er mwyn diogelwch y cystadleuwyr. Ymhlith y cyfieithiadau oedd:- • Cofestru Hil - Race Registration • Diodydd Flaen - Drinks Ahead • Gadw ar yr ochr chwith - Keep on the left hand side • Hil Rhybudd ar y gweill - Caution Race in progress Ymddiheuriad
 |
Yn amlwg doedd y cwmni ddim wedi cysylltu gyda siaradwr Cymraeg i'w cyfieithu'n iawn ac mae'n ymddangos eu bod wedi mynd i Google Translate neu rywbeth tebyg i wneud y gwaith
|
Pan dynnwyd sylw'r cwmni at y mater, dywedodd eu datganiad: "Rydym yn ymddiheuro i'n cwsmeriaid am hyn ac am unrhyw embaras anfwriadol a achoswyd. "Gallaf gadarnhau ein bod wedi defnyddio peiriant cyfieithu ar-lein i wneud y cyfieithiadau. "Byddwn yn tynnu'r arwyddion o'n gwefan yn syth ac yn mynd ati i gael cyfieithiadau cywir. "Byddaf wedyn yn medru cynnig yr arwyddion yn rhad ac am ddim pan fydd y rhain yn barod." Dywedodd Mr Lloyd Williams ei fod yn derbyn yr ymddiheuriad, ac yn edrych ymlaen at ddod i gysylltiad pellach gyda'r cwmni.
|