British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 3 Mawrth 2011, 06:49 GMT
Undeb yn trafod ‚ rheolwyr cwmni trenau

TrÍn Arriva Cymru
Mae gyrwyr trenau Arriva eisoes wedi streicio am ddeuddydd

Mae disgwyl i swyddogion undeb Aslef gwrdd â rheolwyr Trenau Arriva Cymru wedi i streic effeithio ar wasanaethau trên ddydd Sul a dydd Llun.

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal ddydd Iau yng Nghaerdydd cyn cyfarfod pwyllgor gwaith yr undeb ddydd Gwener.

Gwrthododd aelodau'r undeb weithio oriau ychwanegol ddydd Sul ac effeithiodd hyn ar gannoedd o wasanaethau.

Mae'r undeb wedi cyhuddo'r cwmni o roi llai o gyflog i yrwyr yng Nghymru na'r gyrwyr yn Lloegr.

Dywedodd rheolwyr fod y cynnig, 12% dros ddwy flynedd, yn "hynod o hael".

Arweiniodd streic dydd Llun at ganslo hyd at 900 o wasanaethau.

Gwasanaethau bws

Yn gynharach yn yr wythnos fe gyhoeddodd Aslef y bydd ei aelodau o fewn Trenau Arriva Cymru yn gweithredu yn ddiwydiannol ddydd Sul, Mawrth 8 hefyd.

Bydd gwasanaethau bws ar gael mewn rhai ardaloedd ond fydd dim modd archebu seddi o flaen llaw.

Bydd manylion y gwasanaethau bws yn cael eu cyhoeddi ar wefan Arriva Cymru cyn gynted ag y bo modd, meddai'r cwmni.

Cadarnhawyd na fyddai unrhyw effaith ar wasanaethau First Great Western, Cross Country a Virgin.

Honnodd swyddog rhanbarthol yr undeb, Stan Moran, taw'r cynnig yn y bôn oedd 4% a bod rhan ohono'n ymwneud â gweithio ar y Sul.

Gwadodd y byddai'r cynnig yn golygu cyflog terfynol o £39,000 am wythnos bedwar diwrnod o 35 o oriau.

Ddydd Sul Chwefror 27 dim ond llond llaw o wasanaethau yn ne a gorllewin Cymru oedd yn rhedeg ac roedd gwasanaethau gwennol rhwng y Barri a Phontypridd drwy Ganol Caerdydd, rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd ar lein Bro Morgannwg, a rhwng Caerfyrddin ac Abertawe.

Am y manylion diweddara' i deithwyr mae modd edrych ar wefan Trenau Arriva Cymru neu gysylltu gyda'r llinell wybodaeth ar 08457 48 49 50.



HEFYD
Streic drenau arall ddydd Sul
01 Maw 11 |  Newyddion
Streic: Cyfarfod yr wythnos hon
28 Chwef 11 |  Newyddion
Streic gyrwyr trÍn yn parhau
28 Chwef 11 |  Newyddion
Streic gan lanhawyr ar drenau
25 Chwef 11 |  Newyddion
Cyhoeddi streic drenau
17 Chwef 11 |  Newyddion
Canslo streic drenau
01 Chwef 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific