British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 2 Mawrth 2011, 16:48 GMT
Arolygon yn darogan 'Ie'

blwch pleidleisio
Bydd pleidlais Mawrth 3 yn penderfynu a all Aelodau'r Cynulliad ddeddfu heb ofyn caniatd San Steffan

Ar noswyl y refferendwm ar bwerau'r Cynulliad mae trydydd arolwg barn yr wythnos yn darogan y bydd dau o bob tri pleidleisiwr yn pleidleisio Ie ar Fawrth 3.

Y dewis yn y refferendwm ar Fawrth 3 yw caniatáu rhoi pwerau deddfu llawn neu beidio i Aelodau'r Cynulliad yn y meysydd sydd wedi eu datganoli.

Bu YouGov ar ran ITV Cymru'n holi sampl o 1036 o bobl yng Nghymru rhwng 24 Chwefror a 1 Mawrth "pe bai refferendwm yfory ar bwerau'r Cynulliad sut fyddech chi'n pleidleisio?"

Dywedodd 61% y byddent yn pleidleisio Ie, 28% Na a 12% ddim yn gwybod.

Mochyn pinc Gwir Gymru
Mae'r ymgyrch Na yn dweud bod pobol gyffredin am bleidleisio Na

Mae hynny'n cymharu ag arolwg YouGov i'r Byd ar Bedwar o 21-23 Chwefror lle roedd 58% am bleidleisio Ie, 29% Na ac 13% ddim yn gwybod.

O gyfri dim ond y rhai sy'n bwriadu pleidleisio mae'r sampl 23 Chwefror yn dweud bydd 67% yn pleidleisio Ie, 33% Na a sampl 2 Mawrth yn rhoi 69% i'r Ie, 31% i'r Na.

Mewn arolwg barn i bapur newydd y Western Mail gan rmg:Clarity o sampl o 25-28 Chwefror roedd 48% yn bwriadu pleidleisio Ie a 22% am bleidleisio Na gyda 28% dal heb benderfynu sut i daro'u pleidlais.

Un arolwg 'sy'n cyfrif'

Yn ôl Gwir Gymru - sy'n ymgyrchu am bleidlais Na ar Fawrth 3 - mae arolwg ITV Cymru/YouGov yn gwrth-ddweud yr hyn maen nhw'n ei weld ar lawr gwlad.

Fan hysbysebu'r ymgyrch Ie
Mae'r ymgyrch Ie am i bawb gofio pleidleisio i sicrhau llwyddiant iddyn nhw ar Fawrth 3

"Dyw'r arolwg hwn ddim yn adlewyrchu'r ymateb ydyn ni wedi ei gael tra'n ymgyrchu," meddai Rachel Banner o Gwir Gymru.

"Yn y pendraw, yr unig arolwg barn sy'n cyfrif yw un yfory."

'Hanfodol' pleidleisio

Rhybuddio pobl i bleidleisio mae Roger Lewis, cadeirydd Ie dros Gymru, sy'n ymgyrchu dros bleidlais Ie.

"Mae'r arolygon barn wedi datgan yn gyson bod pobl Cymru'n cefnogi pleidlais Ie," meddai.

"Ond os nad yw pobl sy'n cefnogi pleidlais Ie yn taro'u pleidlais fyddwn ni ddim yn ennill.

"Mae'n hanfodol bod pobl yn dod allan i bleidleisio yfory i sicrhau dyfodol llewyrchus i'n gwlad.

"Allwn ni ddim â chymeryd unrhywbeth yn ganiataol."



REFFERENDWM
DIWRNOD Y CYFRI

NEWYDDION YR YMGYRCH
CEFNDIR
CYNULLIAD Y BOBOL
CF99
GWYLIWCH
LANSIO


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific