British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 2 Mawrth 2011, 12:06 GMT
Sir Ddinbych yn cynnal y Brifwyl 2013

Y Pafiliwn Pinc
Roedd hi'n eisteddfod hanesyddol yn 2001 wrth i ferch gael ei chadeirio am y tro cyntaf

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi y bydd yr un safle yn cael ei ddefnyddio ar gyfer Prifwyl 2013 ag a ddefnyddiwyd 10 mlynedd yn ôl.

Sir Ddinbych fydd yn cynnal yr Eisteddfod ymhen dwy flynedd ar dir Fferm Kilford ger Dinbych.

"Rydym yn falch o gyhoeddi y byddwn yn ymweld â Dinbych ymhen dwy flynedd, gan edrych ymlaen at gynnal yr Eisteddfod ar dir Fferm Kilford," meddai Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod.

"Mae'n safle arbennig o dda ac yn un fu'n boblogaidd iawn gydag ymwelwyr yn 2001.

"Bu'r Eisteddfod honno'n llwyddiannus ac felly fe fydd yn braf iawn dychwelyd yno yn 2013."

PRIFWYL 2001
Merch yn ennill y Gadair am y tro cyntaf - Mererid Hopwood
Penri Roberts yn ennill y Goron
Robin Lewis yn cael ei ddewis fel yr Archdderwydd nesaf
Neb yn deilwng o Wobr Goffa Daniel Owen
Elfyn Pritchard yn ennill y Fedal Ryddiaith
Spencer Harries oedd Dysgwr y Flwyddyn
Catherine Watkin yn derbyn Medal Goffa Syr T H Parry Williams

Dywedodd fod pobl ardal Dinbych wedi bod yn awyddus i gynnal yr Eisteddfod ers tipyn.

"Rydym yn gobeithio cychwyn ar y paratoadau'n fuan a byddwn yn galw cyfarfod cyhoeddus cyn y Pasg er mwyn ennyn cefnogaeth pobl ym mhob rhan o'r sir, gan edrych ymlaen at gydweithio eto gyda thrigolion yr ardal."

Yn 2001 ar un adeg roedd 'na bryderon a fyddai modd cynnal y Brifwyl oherwydd y clwy traed a'r genau.

Cafodd Eisteddfod yr Urdd a'r Sioe Amaethyddol eu canslo.

Pamn benderfynwyd cynnal Eisteddfod 2001 roedd rheolau diheintio llym ar gyfer ymwelwyr.

Yn yr Eisteddfod honno fe grëwyd hanes wrth i ferch, Mererid Hopwood, ennill y Gadair am y tro cyntaf.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific